Rhys Iorwerth: 'Sut mae denu mwy i astudio Cymraeg?'
- Cyhoeddwyd
Tasg ddiweddara'r beirdd Rhys Iorwerth ac Aneirin Karadog ydy perswadio mwy o ddisgyblion ysgolion uwchradd i astudio'r Gymraeg.
Mae Rhys yn sôn am rai o'r heriau sy'n eu hwynebu:
Yr wythnos yma, mi fydda' i ac Aneirin Karadog yn cychwyn ar daith rownd ysgolion Cymru. Y naill ar lonydd y gogledd, y llall ar ffyrdd y de.
Pam? Oherwydd bod y niferoedd sy'n astudio Cymraeg yn ein prifysgolion ni'n gostwng, ac o dan arweiniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae yna ymgyrch ar droed i ennyn mwy o ddiddordeb yn y pwnc ymhlith ein disgyblion iau.
Ond pa mor boblogaidd ydi barddoniaeth ym mywydau pobl ifanc heddiw? Ac ai ni ydi'r hogiau iawn i ddenu mwy o astudwyr i'r maes?
Mi ga' i'r ateb, mae'n siŵr, dros y mis sydd i ddod. Ond dyma ambell beth sy'n cyniwair yn fy meddwl wrth ddechrau hel fy mhac, a chyn llenwi'r car hefo petrol.
Yn gynta, am wn i mai cyfran fechan - lleiafrif yn wir - o unrhyw genhedlaeth sy'n mwynhau barddoniaeth go iawn. Hynny ydi, yn ei mwynhau hi yn y ffurf draddodiadol mewn llyfr neu yng nghornel llyfrgell, neu o res ffrynt y Babell Lên. Rydw i'n hanner disgwyl hynny yn ymateb y disgyblion wrth fynd ar fy hynt.
Yn gam neu'n gymwys, rydw i'n disgwyl mai chwilio am y sbarc yn llygad un neu ddau fydd yn rhaid imi; trio ffeindio'r brwd ynghanol y bôrd.
Os mai cyfran fechan sy'n mwynhau, wel mae hi'n gyfran hŷn hefyd, yn ôl pob golwg. Sy'n dda i ddim i fardd gwadd mewn ysgol, wrth gwrs.
Yn sicr, mae'n anodd dadlau â natur y gynulleidfa mewn ambell festri capel ar nos Fawrth aeafol, flin. Y chithau newydd gyrraedd i recordio gornest o'r Talwrn neu i roi sgwrs am eich gwaith, a'r pennau o'ch blaen yn wynion a'r peswch oll yn gryg. Er bod y cacennau cri ar y diwedd wastad yn neis.
Ond wrth adael lleoliadau o'r fath, mi fydda i'n aml yn pasio tai a'u llenni tywyll ac yn meddwl: lle ddiawl mae'r holl bobl ifanc sy'n byw yn fan hyn a lle'n y byd yr oedden nhw heno?
Dyna, mae'n siŵr, un o'r pethau a'n gyrrodd ni fel cenhedlaeth iau o feirdd i drio cynnal mwy o nosweithiau hwyliog fel rhai Bragdy'r Beirdd yng Nghaerdydd, dolen allanol, a'r chwaer-noson hynod boblogaidd yn y Steddfod.
Eto, go brin y bydd y disgyblion y bydd Aneirin a finnau'n dod ar eu traws yn danysgrifwyr selog i gyfrifon Twitter a YouTube y digwyddiadau hyn.
Efallai y bydd yn rhaid dibynnu ar natur a street-cred ein cerddi. Mae'r maes llafur TGAU yn un cymharol newydd; mae fy ngherdd i'n sôn am ddod o hyd i gariad rhwng llymeidiau o gwrw a smôcs yng Nghlwb Ifor Bach. Mae cerdd Aneirin yn trafod dod o hyd i gariad ar ôl cyfnod o rehab oddi ar ddrygs. Cyfoes iawn, mae'n siŵr y cytunwch.
Ond mae'r ymrafael yma rhwng y poblogaidd a'r sylweddol yn rhywbeth sy'n achosi llawer o grafu pen imi, os nad poendod.
Ar y naill law, dyna ichi'r angen i daro'r nod y tro cynta, i greu argraff ar gynulleidfa yn y fan a'r lle. Diwylliant y spoken word a'r performance poets yn Saesneg, i bob pwrpas.
Ar y llaw arall, ydi bardd yn fardd go iawn heb fod â rhywbeth o bwys i'w ddweud, heb yr haenau dyfnach yna o ystyr yn ei waith sydd wedi nodweddu'r meistri erioed? Dyma mae ein beirdd heddiw yn gorfod dygymod ag o o'r newydd, dybiwn i.
Mae'n wir bod y cywyddwyr ers talwm yn gorfod diddanu yn neuaddau eu noddwyr. Ond doedden nhw chwaith ddim yn gorfod cystadlu yn oes y 140-nod a'r GIFs a'r modd darniog a phytiog y mae pobl y dwthwn hwn yn llyncu eu hadloniant bob dydd.
Yn ddiweddar, mi sgwennais i gywydd pen-blwydd i ffrind, a'i ddarllen gerbron criw oedd wedi ymgynnull i ddathlu. Rhyw furmur o gymeradwyaeth a gefais i; ar yr olwg gynta, doedd neb i'w gweld wedi dallt.
Yn go bwdlyd, mi es ati i egluro'r ystyr linell wrth linell. Ac yn sydyn, fel goleuadau bylbs yn fflachio mewn cartŵn, dyma'r lleill yn dod i weld nad oedd yna ddim byd cymhleth yn y gerdd o gwbl. Roedden nhw'n hael iawn eu canmoliaeth wedyn, dim ond bod eu clustiau nhw cynt wedi bod ar gau.
Rydw i'n ystyried mai fy job i ac Aneirin fydd trio gwneud rhywbeth tebyg ymhlith cynifer o ddisgyblion Cymru â phosibl. Hynny ydi, dangos bod barddoniaeth yn gallu plesio a rhoi mwynhad di-ben-draw, dim ond o fod yn barod i'w derbyn i mewn i'ch byd.
Wnawn ni ddim cyrraedd pawb, ac efallai fod yn rhaid disgwyl y bydd y rhan fwya'n mynd adre heb gofio gair. (Heb sôn am fynd i'r brifysgol i astudio Cymraeg.)
Ond os oes modd cynnal yr hen draddodiad yma ymhlith rhywrai o'r to iau, waeth pa gyfryngau a ddefnyddiwn ni, mi fydd yn rhywbeth. Wedi'r cyfan, heb y darllenwyr - neu'r gwrandawyr - ydi beirdd o ddifri'n gallu bod?
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2017