Pedwar achos o Hepatitis A yn siroedd Conwy a Dinbych
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i bedwar achos o Hepatitis A yn siroedd Conwy a Dinbych.
Cafodd un plentyn oedd yn mynychu meithrinfa yn Y Rhyl ei ganfod â'r feirws wedi i'r afiechyd gael ei ledaenu o fewn teulu.
Doedd y plentyn ddim wedi cael Hepatitis A tra yn y feithrinfa.
Mae tua 40 o bobl yn y feithrinfa wedi cael cynnig brechlyn Hepatitis A am fod yr afiechyd yn gallu lledaenu'n hawdd rhwng plant ifanc.
Golchi dwylo
Yn aml, fydd gan blant ddim symptomau ond maen nhw'n gallu trosglwyddo'r clefyd i bobl eraill.
Ymhlith y symptomau posib mae blinder, cur pen, gwres, poenau stumog, colli archwaeth bwyd a chroen sy'n cosi.
Dywedodd Dr Christopher Jones, Ymgynghorydd Gwarchod Iechyd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru bod yna bethau sy'n bosib eu gwneud i geisio atal Hepatitis A rhag cael ei drosglwyddo o un person i'r llall.
"Golchi dwylo yn drylwyr ar ôl bod yn tŷ bach a chyn paratoi a bwyta bwyd yw'r ffordd orau i atal y feirws rhag lledaenu."
"Mae'n bosib i blant basio'r feirws i eraill heb iddyn nhw fod ag unrhyw symptomau, felly rydyn ni'n annog rhieni i annog golchi dwylo yn drylwyr drwy'r amser."