Y Cwestiwn
- Cyhoeddwyd
"What did the President know and when did he know it?"
Fe fydd y rheiny ohonoch chi'n sy'n cofio sgandal Watergate neu sydd wedi darllen amdani yn y llyfrau hanes yn gwybod bod methiant Richard Nixon i ateb y cwestiwn hwnnw yn ganolog i'w gwymp.
Er nad wyf yn dymuno cymharu sefyllfa Carwyn Jones ac un Nixon yn ormodol mae Prif Weinidog Cymru yn wynebu cwestiwn digon tebyg. Beth oedd e'n gwybod ynghylch cyhuddiadau o gamymddwyn yn erbyn Carl Sargeant - a phryd?
Mewn cyfweliad teledu deuddydd yn ôl, y diwrnod cyn marwolaeth y cyn-ysgrifennydd, mynnodd Carwyn Jones mai'r tro cyntaf iddo glywed y cyhuddiadau oedd wythnos ddiwethaf. Dyma beth oedd ganddo i ddweud wrth olygydd gwleidyddol ITV Cymru Adrian Masters.
Adrian Masters: "So you knew at the beginning of the week, you hadn't heard any hint of these allegations before then?
Carwyn Jones: "No, they were drawn to my attention at the beginning of the week, I felt it was then important for me to take further steps."
Mae hynny'n ddigon eglur ond dyma'r broblem.
Mae ffynonellau amrywiol o fwy nac un blaid wedi dweud wrtha'i bod Carwyn Jones wedi trafod cyhuddiadau o gamymddwyn gyda Carl Sargeant unwaith o'r blaen ac wedi derbyn ei esboniad ynghylch y digwyddiad. Mae'r un ffynonellau hefyd yn awgrymu bod y cyhuddiad hwnnw yn un o'r rhai yr oedd Carwyn Jones wedi gofyn i'r blaid ymchwilio iddynt yn sgil diswyddo'r ysgrifennydd.
Os felly roedd ymateb Carwyn Jones i gwestiwn Adrian Masters yn gamarweiniol a dweud y leiaf.
Ydy'r ffynonellau'n gywir? Yr ateb syml i'r cwestiwn yna yw dydw i ddim yn gwybod. Ond mae Carwyn Jones yn gwybod y gwir ac fe ddylai fe ateb y cwestiwn cyn gynted â bo modd iddo wneud hynny.
Yn y cyfamser, yn gam neu'n gymwys, mae'r sibrydion yn lledaenu a'r gefnogaeth i'r Prif Weinidog yn erydu.