148 o Gymru mewn perygl o ymwneud ag eithafiaeth
- Cyhoeddwyd
Roedd bron i 150 o bobl mewn perygl o ymuno â grwpiau eithafol yng Nghymru rhwng 2015 a 2016, yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Gartref.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod 31 i o bobl wedi cael cefnogaeth arbenigol i'w ymbellhau o syniadaeth eithafol.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU, mae mudiadau yn gweithio yng Nghymru i ddarbwyllo pobl rhag ymuno â grwpiau sydd wedi eu gwahardd.
Trwy Gymru a Lloegr, cafodd 7,631 o bobl eu cyfeirio i raglen Prevent Llywodraeth y DU.
Dangosodd ffigyrau rhwng Ebrill 2015 a mis Mawrth 2016 fod 148 o bobl yng Nghymru mewn perygl o ymuno â grwpiau eithafol ac o gynnal gweithredoedd terfysgol.
Cafodd 40 o'r rheiny eu trafod gan banel er mwyn gweld pa gamau oedd angen eu cymryd, a chafodd 30 gyngor drwy'r rhaglen Channel.
Gall hyn olygu mentora unigol gyda chyn eithafwr, fel cyn-recriwtiwr neu gyn aelodau o grwpiau asgell dde eithafol - ond gall hefyd olygu cyfarfodydd gyda seicolegwyr ac arweinwyr crefyddol.
Dadansoddiad o'r ffigyrau:
Dim ond un person gafodd ei gyfeirio gan ffrindiau a theulu, gyda'r heddlu'n cyfeirio 56;
Cafodd 129 o ddynion a 19 o fenywod eu cyfeirio;
Cafodd 20 o bobl dan 15 oed eu cyfeirio;
Roedd 101 o'r achosion o natur eithafiaeth Islamaidd - cafodd 18 gefnogaeth cynllun Channel;
Roedd 33 o natur eithafiaeth asgell dde eithafol - cafodd 13 gefnogaeth cynllun Channel.