'Diwylliant o fwlio' yn y cabinet medd cyn-weinidog

  • Cyhoeddwyd
Leighton Andrews
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Leighton Andrews fod y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ymwybodol o ddiwylliant o fwlio

Mae cyn-weinidog gyda Llywodraeth Cymru yn honni fod yna ddiwylliant o fwlio'n bodoli yn ystod ei gyfnod yn y cabinet, a bod y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ymwybodol ohono, ond heb fynd i'r afael ag e.

Mewn datganiad, disgrifiodd Leighton Andrews awyrgylch "wenwynig" ymhlith gweinidogion a swyddogion yn y llywodraeth, gan gynnwys "mân fwlio" a "gemau meddyliol".

Dywedodd y cyn-weinidog ei fod wedi codi un mater penodol gyda Carwyn Jones oedd â thystiolaeth uniongyrchol, ond na chafodd y drefn briodol ei dilyn.

Dywedodd Mr Andrews fod Carl Sargeant, y credir iddo ladd ei hun ddydd Mawrth, "yn darged digamsyniol i rywfaint o'r ymddygiad hwnnw".

Fe wrthododd Llywodraeth Cymru ag ymateb i ddatganiad Mr Andrews.

Mae Carwyn Jones wedi dod dan bwysau am y ffordd y cafodd Mr Sargeant ei drin yn dilyn cyhuddiadau o gamymddwyn yn ei erbyn.

Ddydd Mercher, fe gyhoeddodd cyfreithwyr ar ran teulu Mr Sargeant ddatganiad yn galw am ymchwiliad llawn i'r amgylchiadau.

Bydd ACau Llafur yn cyfarfod i drafod "digwyddiadau trasig" yr wythnos ddiwethaf brynhawn dydd Iau.