Cymeradwyo cynllun £2.3bn i foderneiddio ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Rhyd y Llan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Rhyd y Llan yn Llanfaethlu, Ynys Môn, yn enghraifft o ysgol newydd gafodd ei hagor yn swyddogol gan Kirsty Williams

Mae cynlluniau £2.3bn i foderneiddio ysgolion wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, y byddai'r ail gyfnod o wariant fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn dechrau yn Ebrill 2019.

Fe fydd costau'r cynlluniau'n cael eu rhannu rhwng y llywodraeth ac awdurdodau lleol.

Mae 83 ysgol wedi cael eu cwblhau a 45 wrthi'n cael eu hadeiladu fel rhan o'r rhaglen ddechreuodd yn 2014.

'Cyrraedd uchelgais'

Wrth agor ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Nghaergybi, dywedodd Kirsty Williams mai dyma'r "buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a'n colegau ers yr 1960au."

"Rwy'n hollol hyderus, wrth i ni symud ymlaen i Fand B, wrth weithio'n agos gyda'n gilydd fe fyddwn ni'n gallu cyrraedd yr uchelgais sydd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion yn eu hardaloedd," meddai.

"Maen nhw wedi cynnig cynlluniau, a heddiw rwy'n cyhoeddi ymrwymiad i adeiladu'r ysgolion mae'r cynghorau wedi rhoi gerbron."

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r "buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a'n colegau ers yr 1960au," meddai Kirsty Williams AC

Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn gynllun hirdymor i foderneiddio ysgolion a cholegau.

Fe fydd pum mlynedd gyntaf y rhaglen yn dod i ben yn 2019 ar ôl gwario £1.4bn, gyda chynghorau a Llywodraeth Cymru yn rhannu'r costau.

Mae prosiectau gwerth £2.3bn wedi cael eu cymeradwyo fel rhan o Fand B ond yn ogystal ag arian cyfalaf, mae model ariannu newydd yn cael ei gynnig byddai'n golygu talu cwmnïau preifat i adeiladu a chynnal ysgolion.

Yn ôl y llywodraeth, mae'r model newydd yn ddull "arloesol" o ariannu prosiectau mawr mewn cyfnod o gyni ariannol.

'Dysgu gwersi'

Dywedodd yr ysgrifennydd addysg bod y llywodraeth wedi gallu "dysgu gwersi" o'r cydweithio rhwng y sector breifat a'r sector gyhoeddus yn y gorffennol ac na fyddai ysgolion yn "cael eu gadael gyda biliau drud iawn".

Yn agoriad swyddogol Ysgol Cybi yng Nghaergybi, Ynys Môn, dywedodd aelod cabinet y sir dros addysg eu bod yn "gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru" i foderneiddio ysgolion y sir.

Dywedodd bod rhai cynghorau ag amheuon am y model newydd posib ar gyfer ariannu'r prosiectau.

"O be' dwi'n ddeall ganddyn nhw, fasen nhw ddim yn cyffwrdd y drefn newydd yma," meddai.

"Ar ôl dweud hynny, rhaid i ni weld beth yw'r manylion a gweld beth yw'r cynlluniau".