Difa lyncs oedd ar ffo yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
LyncsFfynhonnell y llun, SŴ BORTH

Mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau fod cath wyllt ddihangodd o sŵ yng ngogledd y sir wedi cael ei difa.

Fe ffôdd Lilleth, lyncs Ewrasaidd, o atyniad Wild Animal Kingdom yn y Borth ger Aberystwyth ychydig wythnosau yn ôl.

Dywedodd perchnogion y sŵ na chawson nhw unrhyw ran yn y penderfyniad i ddifa'r anifail: "Rydym yn wirioneddol drist ac wedi'n cywilyddio a'r hyn sydd wedi digwydd."

Yn dilyn sawl ymdrech i'w dal, dywedodd yr awdurdod mewn datganiad yn hwyr nos Wener eu bod wedi gorfod gweithredu ar ôl i'r lyncs groesi i ardal mwy poblog o'r gymuned.

Yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd Cyngor Ceredigion fod y sŵ yn wynebu arolwg.

Mae'r atyniad wedi bod ynghau ers i'r lyncs ffoi, wrth i'r perchnogion geisio ei dal.

Yn y cyfamser, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cysylltu â Chomisiynydd Heddlu Dyfed Powys a'r llywodraeth i rannu eu pryderon na chafodd dihangiad y creadur ei drin yn fwy difrifol.

Disgrifiad,

Undeb Amaeth yn poeni na chafodd achos lyncs coll ei drin yn fwy difrifol

Yn y datganiad, dywedodd yr awdurdod fod "yn ddrwg iawn gan Gyngor Sir Ceredigion adrodd bod y Lyncs Ewrasiaidd a ddihangodd yn ddiweddar o 'Wild Animal Kingdom' yn y Borth wedi ei ddinistrio mewn modd dyngarol.

"Er gwaethaf ymdrechion aml-asiantaeth cynhwysfawr i ddal yr anifail dosbarth A, derbyniodd y grŵp aml-asiantaeth a oedd yn ymateb i'r digwyddiad, gyngor ychwanegol yn hwyr brynhawn ddydd Gwener, 10 Tachwedd.

"Cynghorodd Milfeddyg arbenigol bod y risg i les y cyhoedd wedi cynyddu o gymedrol i ddifrifol, oherwydd methiant parhaus y 'Wild Animal Kingdom' i adennill y Lyncs.

"Roedd diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig ac felly ar ôl i'r Lyncs groesi i ardal boblog o'r gymuned, roedd yn rhaid gweithredu yn ddi-os."

Galwad ffôn

Mewn datganiad, esboniodd perchnogion y sŵ iddyn nhw gael galwad ffôn yn hwyr nos Wener fod Lilleth wedi ei lladd.

Ychydig ddyddiau ynghynt, roedden nhw wedi ceisio ei chael yn ôl ar ôl cael gwybod ei bod yn llochesi o dan garafan, ond fe ffôdd cyn iddyn nhw ei dal.

Roedd swyddogion o'r cyngor gyda nhw ar y pryd.

"Roedden nhw wedi galw saethwyr proffesiynol oedd â'r offer ddiweddara' a chamerau nos thermal i'w dal hi a'i saethu'n farw", meddai'r datganiad.

"Dydy dweud ein bod yn torri'n calonnau ddim yn cyfleu'n teimladau'n ddigon cryf."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau eu gadael y tu allan i'r Wild Animal Kingtom yn y Borth

Mae'r perchnogion yn dweud fod yr atyniad mewn cyflwr gwael pan gymeron nhw reolaeth ohono chwe mis yn ôl: "Roedd wedi ei esgeuluso am beth amser ac roedd sawl un o'r llociau yn pydru a ddim yn addas i'w defnyddio.

"Dwi'n credu bod y cyn berchennog wedi colli calon ac wedi rhoi'r gorau i fuddsodi mewn gwelliannau, sef y rheswm yr oedden nhw eisiau wgerth.

"Ein bwriad yw ailagor yn dilyn yr arolwg a pharhau a'r gwaith i roi'r cartref gweddus i'r anifeiliaid y maen nhw'n eu haeddu.

"Hoffem ddiolch i lawer o bobl yn y Borth sydd wedi ein cefnogu â'n hymdrechion, a'r geiriau o anogaeth rydym wedi eu gael gan bobl o bell ac agos.