Sŵ ger Aberystwyth yn wynebu arolwg wedi i lyncs ddianc

  • Cyhoeddwyd
LyncsFfynhonnell y llun, Sw Borth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sŵ wedi ceisio dal y lyncs drwy osod trapiau yn yr ardal

Mae sŵ ger Aberystwyth yn wynebu arolwg gan Gyngor Sir Ceredigion wedi i lyncs ddianc o'i chorlan tua pythefnos yn ôl.

Mae'r sŵ, Borth Wild Animal Kingdom, wedi bod ar gau wrth i staff geisio dod o hyd i'r gath wyllt.

Bydd Cyngor Ceredigion yn arolygu'r sŵ yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae'r lyncs wedi'i ddisgrifio fel un lliw golau, gyda smotiau tywyll ar ei chefn a'i choesau, a chynffon drwchus sydd yn ddim hirach na chwe modfedd.

Rhybudd heddlu

Y gred yw bod y lyncs yn parhau i fod rywle yn agos i'r sŵ, ac mae swyddogion a hyd yn oed hofrenyddion wedi'u defnyddio i geisio'i dal.

Fe rybuddiodd Heddlu Dyfed Powys y gallai'r anifail ymosod os yw'n cael ei gornelu, ac y dylai'r cyhoedd gadw draw.

Mae'r cyngor hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi ymgynghori gyda milfeddyg i sicrhau fod y dulliau cywir yn cael eu cymryd i geisio dal y lyncs.

Mae ffermwr yn Borth ger Aberystwyth yn honni iddo weld cath fawr yn yr un cae ag wyth o ddefaid marw, ond dyw arbenigwyr ddim wedi medru cadarnhau os mai'r lyncs oedd yn gyfrifol am ladd y defaid.