Troi cefn ar y brifddinas i ddechrau busnes yng nghefn gwlad

  • Cyhoeddwyd
Osian: Wedi dysgu pobi gan ei fam-gu, yn y cegin lle mae nawr yn cynnal y busnesFfynhonnell y llun, Crwst
Disgrifiad o’r llun,

Y cylch yn gyflawn: Dechreuodd diddordeb Osian mewn coginio yng nghegin ei fam-gu

Ry'n ni'n clywed yn aml am ddi-boblogi cefn gwlad wrth i bobl ifanc Cymru symud i'r dinasoedd i weithio. Ond mae cwpl o Sir Benfro yn mynd yn erbyn y llif. Mae Osian a Catrin Jones wedi gadael Caerdydd er mwyn sefydlu busnes pobi ym mro eu mebyd.

Catrin sy'n sôn am eu penderfyniad i sefydlu Crwst yng nghegin hen gartre mam-gu Osian ym Mlaenffos:

Roedd Osian wedi dysgu ei grefft yn lleol mewn gwesty yn Llechryd a phan gafodd gynnig symud i Gaerdydd i weithio mewn gwesty fan 'ny, wel, roedd hi'n gyfle iddo gael mwy o brofiad, ond dod yn ôl oedd y bwriad wastad.

Cegin mam-gu

Ni'n dau'n lico byw yn lleol. Ni'n bach o country bumpkins, ond leicen ni ddod â rhywbeth gwahanol i'r ardal. Dod nôl â thalent Osian fel bod pobl fan hyn yn gallu mwynhau'r profiad o'r bwyd anhygoel mae'n medru ei greu, a dod â syniadau modern yma.

Yr holl amser roedden ni yng Nghaerdydd, roedden yn paratoi ein cynlluniau i ddod adre. Ro'n i'n teithio nôl i swyddfeydd Antur Teifi i wneud cyrsiau busnes, a dreulion ni amser yn gwneud yr ymchwil a gwneud y cynlluniau i agor ein lle ein hunain.

Disgrifiad o’r llun,

Osian a Catrin a'u tystysgrif canmoliaeth uchel yng Nghwobrau Busnes Gwledig Prydain

Y syniad wastad oedd agor caffi a thŷ bwyta ond roedd hi'n anodd ffeindio lle addas, felly dyna pam ddechreuon ni fusnes wedi ei leoli yn y tŷ. Hwn yw hen dŷ mam-gu a thad-cu Osian, a dyma ble dechreuodd e gwcan gyda'i fam-gu.

Ond doedd dim syniad gyda ni os oedd hi'n bosib hyd yn oed gwneud bywoliaeth o set up mor fach. Felly ar y dechrau, roedden i'n gweithio rhan amser o hyd. Ond o fewn wyth wythnos, wnes i roi'n jobyn lan achos o'n ni mor brysur.

Mae'r oriau'n hir iawn. Dydd Iau a dydd Sadwrn yw'n diwrnodau prysuraf gan ein bod ni â stondin ym Marchnad Aberteifi ac mae orders y siopau lleol sydd yn gwerthu ein bara a chacennau'n cael eu paratoi hefyd. Ar nos Fercher a dydd Gwener felly, byddwn ni'n codi tua chwech y bore, ac yn pobi tan un y bore wedyn.

Yna byddwn ni'n codi eto am hanner awr wedi pedwar y bore i wneud y doughnuts i gyd. Y doughnut yw'r pethau mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd, felly mae angen lot ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ai hwn yw Garej Paradwys band tad Osian, Richard Jones o Ail Symudiad?

Garej paradwys

Nawr gyda'r cynlluniau newydd fydd pethau'n mynd hyd yn oed yn fwy prysur. 'Dyn ni nawr yn mynd i wneud beth oedd ein bwriad ni ers y dechrau, ond mae'n naid eithaf mawr.

O'r diwedd 'dy ni wedi ffeindio rhywle addas a ni'n bwriadu agor bar, caffi, popty a thŷ bwyta yng nghanol tref Aberteifi.

Yn wreiddiol garej oedd yr adeilad oedden ni'n bwriadu ei ddatblygu ac yn ddiweddar roedd e'n siop pob dim, ond mae'n ofod mawr, ond gyda'r ffenestri mawr na mae reit lan ein stryd ac yn berffaith ar gyfer beth ni moyn gwneud, a'r peth gorau yw bod e'n blank canvas.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o gwsmeriaid hapus Crwst

Diwedd y gân

Roedd y weledigaeth gyda ni, mae'r adeilad perffaith gyda ni, ond y cam mwyaf oedd ffeindio'r arian. Hyd yn oed gyda blwyddyn o brofiad a busnes llwyddiannus, byddai'n anodd iawn i ni godi'r arian drwy'r banciau cyffredin.

Ond, wnaethon ni ein gwaith ymchwil a gydag ychydig o help Antur Teifi a gwahanol bobl, ddaethon ni i gysylltiad â Banc Datblygu newydd Llywodraeth Cymru a thrwyddyn nhw ry'n ni wedi derbyn y benthyciad fydd yn gwneud yr holl beth yn bosib.

Yr unig beth sydd ar ôl yw cael y cadarnhad cynllunio fydd yn gwneud hi'n bosib i ni ddechrau. Ond mi ddylen ni glywed am hyn ddiwedd y mis.

Os oes gan unrhyw un mas fan 'na syniad neu freuddwyd i wneud rhywbeth a dechrau busnes, fydden ni'n dweud go for it. Mae'n lot o waith, ond rhaid i chi fynd amdani, a mynd amdani fflat owt.

Ffynhonnell y llun, Crwst