Dyn gafodd ei gam-drin yn feddyliol gan ei bartner
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder nad oes digon o gymorth ar gael i ddynion yng Nghymru sy'n diodde' o drais yn y cartref. Mae'n bwnc sydd wedi tueddu i gael llai o sylw na menywod sy'n cael eu cam-drin o fewn perthynas.
Fe rannodd John (nid ei enw iawn) ei stori gyda Cymru Fyw:
Ro'n i gyda fy mhartner am wyth mlynedd, ond roedd tua pum mlynedd o'r cyfnod yna yn anioddefol.
Cael fy ngham-drin yn feddyliol oeddwn i yn fwy na dim, er roedd o'n agos i fod yn gorfforol sawl gwaith.
Do'n i ddim yn gwybod beth i'w wneud, roedd fy hyder i wneud rhywbeth i ddianc o'r sefyllfa yn mynd yn is ac yn is o hyd.
Bychanu
Roedd hi'n fy mychanu yn rheolaidd, gan wneud hwyl ar fy mhen yn gyson o flaen bobl eraill - rhai roedden ni'n 'nabod a phobl ddiethr hefyd, gan alw enwau a fy marnu drwy'r amser.
Roedd hi'n dweud bod popeth o'n i'n wneud, pob hobi a gweithgaredd gymdeithasol, yn stiwpid neu yn ridiculous.
Pan o'n i'n anfon neges ffôn i aelod o'r teulu, bydde hi isio gwybod beth o'n i'n ddweud wrth pwy. Ond pan o'n i'n gofyn iddi hi beth oedd hi'n wneud neu pwy oedd hi'n decstio, byddai hi'n dweud "be' 'dio i'w wneud efo ti? Meindia dy fusnes!"
Hi oedd yn dweud beth o'n i'n cael ei wisgo a beth oedden ni'n ei wneud. Pan o'n i'n cael y cyfle ro'n i'n mynd am dro a chael awyr iach. Ond dim ond am gyfnodau byr o'n i'n cael gwneud hyn - roedd hi eisiau fi nôl yn y tŷ yn syth ac eisiau gwybod pwy welis i.
Roedden ni'n mynd allan fel cwpl, neu oedd hi'n mynd ar ei phen ei hun. Roedd amseroedd pan oedd hi'n mynd am nosweithiau allan hebdda i yn dipyn o ryddhad i fod yn onest gan mai'r adegau hynny o'n i'n cael cyfle i ofyn am help.
Trais meddyliol
Dwi'n gwybod efallai bod hyn yn swnio'n wallgo', ond ar brydiau roeddwn yn meddwl y byddai hi wedi bod yn well petai hi wedi ymosod arna' i yn gorfforol. Falle' wedyn y byswn i wedi cael fy ngwthio ac yna'n gallu cyfiawnhau ei gadael hi.
Do'n i ddim yn gallu siarad efo ffrindiau a theulu am y sefyllfa. Roedden nhw'n rhy agos yn emosiynol. Doedden nhw ddim yn byw yn yr ardal felly doedden nhw ddim yna i droi atyn nhw. Roedden nhw'n gwybod bod pethau ddim yn iawn yn fy mherthynas i, ond doedden nhw ddim yn gwybod pa mor ddrwg oedd pethau go iawn.
I ddweud y gwir doedden nhw ddim yn hapus mod i efo fy mhartner o'r dechrau. O edrych yn ôl roedden nhw'n iawn!
Codi'r ffôn
Yn y diwedd nes i gysylltu efo elusen Women's Aid yma yng ngogledd Cymru. Do'n i ddim yn gwybod am neb arall i droi ato. Mae'r enw yn anffodus achos mae'n dueddol o wneud i ddynion fod yn ansicr am ffonio.
Roedd cael llais ar ben arall y ffôn yn help i mi, ac roedd yn gwneud i mi ddeall bod yna ddihangfa o'r sefyllfa ro'n i ynddi.
'Nes i siarad efo nhw ddwywaith, ond ar y pryd doeddwn i ddim wedi paratoi fy hun yn feddyliol i ystyried gadael fy mhartner. Ond wedi amser fe es i weld fy meddyg teulu, ac fe ddechreuodd pethau newid wedi hynny.
Yn draddodiadol mae pobl efallai'n meddwl mai merched sydd yn dioddef o drais yn y cartref, ac mae dynion yn gallu cael y meddylfryd macho o beidio gofyn am help. Ond mae dynion yn dioddef, ac mae'n bwysig gofyn am help pan fod angen.
Gadael
Nes i bacio dillad mewn cês a'i guddio, rhag ofn bod rhaid i mi adael mewn brys. Cefais wybod gan weithiwr cymdeithasol am uned DASU (Domestic Abuse Safety Unit) yng ngogledd Cymru.
Roedd gan DASU stafell wag ac mi nes i symud i'r tŷ oedd ganddyn nhw i hel fy meddyliau at ei gilydd ac roedden nhw'n llawer o help tra o'n i'n chwilio am dŷ parhaol.
'Mwy o fuddsoddiad'
Mae angen mwy o lochesau tebyg yn gyffredinol, ond hyd y gwela i mae 'na brinder mawr o stafelleodd tebyg i ddynion yn y gogledd.
Byddai ambell i ddyn yn fy sefyllfa i yn teimlo'n anesmwyth bod o gwmpas gwragedd yn y cyfnod hwnnw ar ôl gadael cartref yn dilyn camdriniaeth.
Yn sicr dylai bod llywodraeth leol a haenau eraill o lywodraeth yng Nghymru yn gweithio'n agosach i ariannu llefydd o'r fath. Buddsoddiad yn y gymuned ydy o yn y pendraw os ydy o'n helpu dynion a merched sydd wedi cael eu cam-drin i wella ansawdd eu bywydau.
Y Dyfodol
Dwi 'di gallu rhoi'r dyddiau tywyll tu ôl i mi - yn amlwg mae nhw dal yno ac yn dylanwadu weithiau, ond mae'n gwella trwy'r amser. Dwi ddim yn gwybod be mae fy nghyn-bartner yn ei wneud bellach, does dim cysylltiad.
Dwi wedi cael fy llety fy hun erbyn hyn a dwi mewn perthynas newydd. Roedd hithau hefyd wedi cael ei cham-drin yn y cartre yn y gorffennol.
Dwi mewn lle da ar hyn o bryd ac yn mwynhau'r cyfnod newydd yma yn fy mywyd.
Os ydych chi wedi cael eich trin mewn ffordd debyg i John, ewch i wefan Byw heb Ofn, dolen allanol.