Anya Gwynfryn: 'Angen trafod iechyd meddwl ar-lein'
- Cyhoeddwyd

Rhoi diwedd ar stigma iechyd meddwl. Dyna yw nod Amser i Newid Cymru wrth iddyn nhw ddechrau ymgyrch newydd #GallwnAGwnawn yr wythnos hon.
Yn ôl un sy'n rhan o'r ymgyrch, rhaid i bobl ifanc ddod at ei gilydd i newid safbwyntiau ynghylch iechyd meddwl a rhoi diwedd ar y stigma. Dyma stori Anya Gwynfryn...

"Mae e fel bod mewn môr garw a thrio nofio yn erbyn y tonnau a gorfod ymladd jest i gadw fy mhen rhag mynd o dan y dŵr," meddai'r ferch o Gaerdydd sydd wedi bod yn brwydro iselder ers blynyddoedd.
"Mae'n cymryd gymaint o egni i ymladd pan mae rhywbeth fel iselder yn neud i chi deimlo mor anobeithiol."
Daeth meddyliau tywyll i'w rhan pan oedd hi'n 16 oed, ar ôl iddi gael diagnosis o Retinitis pigmentosa, sy'n gyflwr ar y llygaid a all arwain at golli ei golwg yn llwyr rhyw ddiwrnod.
"Wnes i ddechrau meddwl pethau fel 'wneith neb dy garu di efo nam golwg', 'rwyt ti'n mynd i fod yn ddall ac yn unig', er nad o'n i'n adnabod y meddyliau tywyll fel iselder ar y pryd," meddai Anya.
'Methu cyfaddef bod pethau'n wael'
Aeth pethau o ddrwg i waeth, ac erbyn roedd hi'n 22 oed, ceisiodd ladd ei hun.
"Mae yna wastad sôn am bobl yn cynllunio i ladd eu hunain, ond nid fel yna oedd e i fi. Ar ben delio gyda fy anabledd, roedd rhwystrau eraill yn fy mywyd.
"Roedd y meddyliau bach wnaeth ddechrau pan o'n i'n 16 droi i fod yn feddyliau am hunanladdiad."

Er iddi stopio ei hun mewn pryd doedd hi'n dal ddim yn gallu cyfaddef i'w hun bod pethau'n wael a'i bod angen help.
Chwerthin yn helpu
Ar ôl blwyddyn o gwnsela, cymryd tabledi a gwirfoddoli gydag Amser i Newid Cymru, daeth tro ar fyd yn araf bach.
"Dwi wedi stopio cymryd meddyginiaeth ers chwe mis, ac mae'r gwahaniaeth yn anhygoel, ac fe alla i ddweud yn onest fy mod i'n hapus," meddai Anya.
"Ond gallaf hefyd ddweud nawr fy mod i'n adnabod yr arwyddion ac yn teimlo y byddaf yn gwybod sut i ymdopi os ddaw'r iselder yn ôl eto.
"Dwi'n byw gyda fy iselder yn yr un ffordd â dwi'n ceisio goroesi gyda fy anabledd. Mae cariad eraill fel fy nheulu, fy ffrindiau a fy mhartner yn nerthol.
"Dwi'n ceisio chwerthin am y peth weithiau neu byddai'n hawdd iawn imi deimlo'n anobeithiol."

Mae Anya yn dweud bod cefnogaeth ei chariad wedi rhoi nerth iddi
Rhaid bod yn glên gyda hi ei hun, mae'n cyfaddef, a gwneud yr ymdrech i atgoffa ei hun am y pethau da mewn bywyd.
"Mae'n bwysig i siarad, ac ymddiried yn rhywun. Mae'n hawdd iawn i deimlo eich bod ar eich pen eich hun," meddai.
"Drwy siarad mwy am iechyd meddwl ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig, bydd mwy o ddealltwriaeth am y pwnc.
"Wneith y stigma fyth ddiflannu os nad ydy pobl yn dysgu mwy am iechyd meddwl. Mae iechyd meddwl yn gwmws yr un peth â iechyd corfforol, dylid trin y ddau'r un peth."

Mae Anya yn ferch i'r cyflwynydd Hywel Gwynfryn
Ar gyfryngau cymdeithasol, bydd yr ymgyrch #GallwnAGwnawn, dolen allanol yn cynnwys fideos gyda hyrwyddwyr ifanc Amser i Newid Cymru yn siarad yn agored am eu profiadau eu hunain gyda'r bwriad o helpu pobl ifanc eraill i ddatblygu'r hyder i siarad yn fwy agored am y pwnc.
"Mae'n anhygoel i fod yn rhan o rywbeth mor bwysig. Efallai y bydden i wedi siarad gyda rhywun yn gynt pe bawn i wedi dod ar draws ymgyrch tebyg pan o'n i'n dioddef," meddai.
"I fi, nid yn unig dwi eisiau helpu eraill sydd â phroblemau iechyd meddwl, ond hefyd newid sut maen nhw'n gweld rhywun sydd ag anabledd.
"Mae wastad ofn gen i y bydd yr iselder yn dod yn ôl, ond alla i ddim gadael i'r ofn fy nal i nôl rhagor.
"Fe wnes i glywed dyfyniad grêt yn ddiweddar sy'n fy siwtio i i'r dim: 'I may be losing my sight, but I will never lose my vision'."
Stori: Llinos Dafydd

Efallai o ddiddordeb:
Gwefan meddwl.org, dolen allanol - 'meddyliau ar iechyd meddwl'