Gwobr Llyfr y Flwyddyn i barhau yn 2018
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi clywed fore Mawrth y byddan nhw'n parhau i drefnu gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2018.
Cafodd seremoni Llyfr y Flwyddyn ei gynnal yng Nghaerdydd nos Lun.
Idris Reynolds enillodd y brif wobr am Lyfr Cymraeg y Flwyddyn, a £3,000, am ei gyfrol 'Cofio Dic', a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer.
Alys Conran gipiodd y brif wobr yn Saesneg.
Ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru, dywedodd Lleucu Siencyn eu bod nhw "wedi bod yn siarad gyda swyddogion yn swyddfa'r Gweinidog bore 'ma, ac allai gadarnhau bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i drefnu'r wobr blwyddyn nesa'".
Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi hysbysu Llenyddiaeth Cymru mai nhw fydd yn trefnu cystadleuaeth 2018.
Roedd yna bryderon am ddyfodol y wobr yn dilyn adroddiad damniol o waith Llenyddiaeth Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Roedd adolygiad yr Athro Medwin Hughes ar y diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru yn argymell trosglwyddo llawer o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Gweinidog Economi, Ken Skates, y byddai'r cyfrifoldeb am y seremoni yn cael ei throsglwyddo i'r Cyngor Llyfrau hefyd.
Ond nawr mae Llenyddiaeth Cymru yn dweud mai nhw fydd yn parhau i drefnu'r wobr y flwyddyn nesa, ac fe gadarnhaodd Llywodraeth hynny brynhawn Mawrth.
Dywedodd Lleucu Siencyn: "Ry' ni'n edrych mlaen i ddod a'r holl bartneriaid at ein gilydd i drafod sut allwn ni adeiladu ar lwyddiant eleni a symud y wobr ymlaen."
"Wrth gwrs (fe fyddwn ni'n) defnyddio'r holl gyngor gethon ni o'n adolygiad ni o'r wobr," meddai, "o ran mynd i chwilio nawdd a sefydlu partneriaethau yn ddyfnach yn y sector tu hwnt i'r sector cyhoeddi, gan gynnwys y wasg a'r cyfryngau."