Leanne Wood: 'Angen parhau ag ymchwiliad Carl Sargeant'
- Cyhoeddwyd
Mae angen parhau i ymchwilio i'r honiadau o gamymddwyn yn erbyn Carl Sargeant, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Dywedodd Leanne Wood ei bod hi'n credu "nad dyma'r amser i fod yn neidio i gasgliadau".
"Yn lle hynny mae angen i ni sicrhau cyfiawnder i bawb sydd yn rhan o hyn," meddai.
Yn gynharach ddydd Mawrth cafodd teyrngedau eu rhoi yn y Senedd i Mr Sargeant, gafodd ei ganfod yn farw yr wythnos diwethaf.
'Angen camau cliriach'
Cyn y Cyfarfod Llawn yn y Siambr, dywedodd Ms Wood mewn cynhadledd i'r wasg ei bod hi'n falch y byddai ymchwiliad annibynnol i benderfyniad Carwyn Jones i ddiswyddo Mr Sargeant.
Ychwanegodd: "Mae'n rhy fuan i wneud sylw ar ddyfodol gwleidyddol unrhyw un."
Cafodd y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau ei ddiswyddo o'r cabinet a'i wahardd o'r blaid Lafur wedi honiadau o ymddygiad amhriodol gyda menywod.
Roedd AC Alun a Glannau Dyfrdwy wedi gwadu'r honiadau yn ei erbyn.
Dywedodd Ms Wood fod dal angen ymchwilio i'r honiadau er gwaethaf marwolaeth Mr Sargeant.
"Dwi ddim yn siŵr yn union sut mae mynd ati gyda hynny," meddai.
"Un o'r pethau mae digwyddiadau'r wythnos ddiwethaf wedi amlygu yw nad yw'r camau ar gyfer delio â hyn i gyd falle mor glir ag yr hoffen ni iddyn nhw fod.
"Ond mae'n bendant angen ffordd o sicrhau, pan mae pobl yn dod 'mlaen gyda phryderon, eu bod yn cael eu cymryd o ddifrif a'u bod yn cael rhyw lefel o gyfiawnder."
'Cwynion yn y system'
Ddydd Sul dywedodd yr AC Llafur, Mike Hedges nad oedd modd i ymchwiliad y blaid i Carl Sargeant barhau.
Dywedodd Ms Wood nad oedd yr un blaid yn "ddiogel rhag y pryderon hyn".
Yn ddiweddar fe wnaeth hi ymddiheuro i unrhyw un o fewn ei phlaid ei hun oedd wedi cwyno, ond oedd yn teimlo "na chafodd y camau priodol neu ddigonol eu cymryd".
Ychwanegodd fod gan ei phlaid gwynion "yn y system", ond nad oedd modd iddi siarad amdanynt.
Mae Plaid Cymru wedi adolygu eu proses adrodd, a bellach yn cymryd cyngor gan elusen gynghori New Pathways.
Mae cyfarfod rhwng arweinwyr y pleidiau gwleidyddol a Llywydd y Cynulliad i drafod aflonyddu wedi ei aildrefnu ar gyfer ddydd Mercher.