Marwolaeth M4: Dyn wedi disgyn o dacsi
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dyn a fu farw ar ôl cael ei daro gan "nifer o gerbydau" ar draffordd yr M4 ddisgyn allan o dacsi.
Roedd Tony Pemberton yn 29 oed ac yn dod o ardal Y Pîl ym Mhenybont-ar-Ogwr
Bu farw wedi'r gwrthdrawiad rhwng cyffordd 35 (Pen-coed) a chyffordd 36, (Sarn) ger Penybont-ar-Ogwr ar nos Sadwrn 11 Tachwedd.
Mae Heddlu'r De wedi dweud eu bod yn "ymchwilio i pam a sut wnaeth Mr Pemberton adael y cerbyd".
Mae tystiolaeth yn cael ei baratoi ar gyfer y crwner ond does dim dyddiad pendant wedi'i gadarnhau eto ar gyfer cwest.
Yn dilyn marwolaeth Mr Pemberton, roedd yr M4 ar gau i'r ddau gyfeiriad am fwy na 10 awr wrth i'r heddlu ymchwilio.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Pemberton ei fod yn "dad i ddwy ferch ifanc yr oedd yn eu caru'n fawr".
"Roedd yn jociwr, yn mwynhau bywyd, a doedd yn ddim munud ddiflas yn ei gwmni.
"Bydd ei deulu a'i ffrindiau yn ei golli'n fawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2017