Pryder am ddyfodol parciau gwledig Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Parc Gwledig Tŷ Mawr, WrecsamFfynhonnell y llun, GERAINT ROBERTS
Disgrifiad o’r llun,

Parc Gwledig Tŷ Mawr, Wrecsam

Mae cannoedd o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am ddiogelu parciau gwledig a dinesig Wrecsam.

Mae Cyngor Sir Wrecsam, sy'n ceisio arbed £13m dros ddwy flynedd, yn ystyried cael llai o staff i ofalu am yr 11 parc - cam fyddai'n arbed £100,000 yn 2018/2019.

Ond yn ôl gwrthwynebwyr gallai hynny arwain at gau tai bach a chanolfannau ymwelwyr, a llai o weithgareddau cymunedol.

Mae'r cyngor yn annog y cyhoedd i fynegi barn cyn 30 Tachwedd.

Mae dogfen Penderfyniadau Anodd y cyngor yn sôn am addasu'r gwasanaeth er mwyn rheoli dau barc mwyaf y sir - parciau gwledig Tŷ Mawr a Dyfroedd Alun - yn ddiogel.

Bydd adolygiad pellach ynglŷn â'r parciau lle mae adnoddau'n amrywio dros y tymhorau, a bydd swyddogion cyngor sy'n gyfrifol am wella edrychiad strydoedd y sir yn helpu cadw'r parciau'n lân.

Digwyddiadau

Dydi'r cyngor ddim wedi cadarnhau faint o swyddi allai fod yn y fantol, ond yn ôl Ffrindiau Parciau Wrecsam fe allai nifer y ceidwaid ostwng o'r chwech presennol i dri neu bedwar.

Disgrifiad o’r llun,

Un o barciau gwledig Wrecsam

Dywedodd llefarydd y grŵp bod y swyddogion "yn gwneud mwy o lawer na chadw'r parciau'n ddiogel a deniadol.

"Maen nhw'n trefnu digwyddiadau crefft i blant yr ardal, yn gweithio gydag ysgolion ac yn annog pobl fregus i wneud gwaith gwirfoddol."

Mae'r grwp yn poeni y byddai parciau llai yn dioddef, ac mewn perygl o golli statws y Faner Werdd, o ganlyniad canolbwyntio ar barciau mwyaf y sir.

Mae'r grŵp hefyd yn gwrthwynebu lleihau oriau agor Parc Gwledig Melin y Nant, Coed-poeth.

Byd natur

Mae Stephen Taylor, sy'n byw yng Nghoed-poeth, yn poeni am ddyfodol canolfan addysg y parc.

Dywedodd: "Mae lot o blant ysgol gynradd a grwpia' eraill yn dod i fan hyn i gael addysg am y byd natur a dwi'n meddwl bod o'n bwysig bod nhw'n parhau.

"Hefyd mae 'na siop yn fan hyn sydd ar agor yn yr haf ar hyn o bryd saith diwrnod yr wythnos. Os ydi'r toriadau'n mynd ymlaen pur debyg fydd y siop yna ddim ond ar agor dros rai penwythnosau."

Pryder arall ydi'r posibilrwydd o stopio cynnal digwyddiadau ym Mharc Bellevue ger canol tref Wrecsam.

Dywedodd llefarydd Ffrindiau Parciau Wrecsam eu bod yn "deall sefyllfa'r Cyngor ond fe fyddai'r toriadau'n difetha cyfleusterau sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd ac sy'n rhan bwysig o fywydau pobl Wrecsam."

Ddydd Sadwrn bu aelodau'r grŵp yn gorymdeithio trwy Wrecsam er mwyn gwrthwynebu'r cynigion.