Angladd Carl Sargeant yn ei dre enedigol
- Cyhoeddwyd

Cafwyd cadarnhad y bydd angladd Carl Sargeant yn cael ei gynnal yng Nghei Conna ar Ragfyr y 1af.
Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Bernie Attridge, y bydd y digwyddiad yn "ddathliad o'i fywyd".
Credir bod AC Alun a Dyfrdwy wedi lladd ei hun ar ôl iddo gael ei sacio yn dilyn honiadau o gamymddwyn amhriodol.
Ychwanegodd Mr Attridge bod disgwyl i'r angladd, a fydd yn cael ei gynnal yn Eglwys Sant Marc, fod yn angladd mawr - y mwyaf i'r dref ei weld.
Cafwyd hyd i Mr Sargeant 49 yn farw rai dyddiau wedi iddo golli ei swydd yn y cabinet fel Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant.
Roedd e hefyd wedi cael ei wahardd o'r Blaid Lafur wedi honiadau o aflonyddu rhywiol.
Yn dilyn yr honiadau dywedodd Mr Sargeant yn byddai'n adfer ei enw da ond ar ddydd Mawrth y 7fed o Dachwedd cafwyd hyd i'w gorff yn ei gartref.
Ddydd Llun nododd dyfarniad cychwynnol mewn cwest mai crogi oedd achos ei farwolaeth.

Yn ôl Carwyn Jones symud Carl Sargeant o'r cabinet oedd ei unig ddewis
Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i sut ddeliodd y Prif Weinidog Carwyn Jones â chael gwared â Mr Sargeant o'r cabinet.
Dywedodd Mr Attridge mai "hwn fydd yr angladd mwyaf i'w gynnal yn yr eglwys yn ystod fy oes i".
Ychwanegodd: "Ry'n yn disgwyl miloedd. Rwyf wedi derbyn cannoedd o negeseuon ar draws Cymru a Lloegr yn holi am westai.
"Dyw teulu a ffrindiau ddim yn ei weld fel angladd ond yn hytrach fel dathliad o fywyd Carl."

Munud o dawelwch i gofio am Carl Sargeant
Mae Mr Attridge yn gadeirydd ar dîm pêl-droed Cei Conna a Mr Sargeant oedd y llywydd.
Cafodd y gemau eu canslo yr wythnos ddiwethaf ond ddydd Sadwrn bu'r tîm yn gwisgo bandiau du am eu breichiau i chwarae yn erbyn Bwcle. Yn ogystal cafodd munud o dawelwch ei chynnal.