Teulu Sargeant: 'Dyma wythnos anoddaf ein bywydau'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu Carl Sargeant wedi dweud eu bod wedi gorfod ymdopi â "wythnos anoddaf ein bywydau" yn dilyn ei farwolaeth.
Ddydd Mawrth cafodd teyrngedau eu rhoi yn y Cynulliad i'r cyn-weinidog, gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref yr wythnos diwethaf.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod ei farwolaeth yn "golled enfawr ac ysgytwad enbyd", a dywedodd Lesley Griffiths AC ei bod wedi colli "cymrawd a ffrind".
Roedd aelodau o deulu Mr Sargeant yno yn y Senedd i wrando ar y teyrngedau.
'Diolch o waelod calon'
Mewn datganiad ddydd Mercher ar ran y teulu dywedodd mab Carl Sargeant, Jack: "Mae fy mam Bernie, fy chwaer Lucy a minnau wedi ein llorio gyda'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i gael ers marwolaeth drasig Dad ddydd Mawrth diwethaf.
"Hon oedd wythnos anoddaf ein bywydau.
"Mae'n anodd dychmygu sut y bydden ni wedi ymdopi heb gefnogaeth aelodau eraill o'r teulu, cymuned Cei Connah a ffrindiau Dad o bob cwr o Gymru.
"Rydyn ni wedi cael cymaint o negeseuon o gefnogaeth gan bobl oedd wedi cwrdd â Dad unwaith, neu bobl oedd erioed wedi'i gyfarfod ond oedd yn gwybod gan eraill cymaint o ddyn caredig, gofalgar a diffuant oedd o.
"Mae gwybod cymaint o feddwl oedd 'na o Dad wedi helpu ni drwy'r boen.
"Roedd bod yn y Cynulliad Cenedlaethol ddoe - a chlywed dros ein hunain y teyrngedau twymgalon gan ei ffrindiau a'i gydweithwyr yng Nghaerdydd - hefyd yn brofiad emosiynol.
"Byddwn wastad yn trysori'r caredigrwydd mae ffrindiau a dieithriaid wedi ei ymestyn i ni yn ystod y cyfnod yma.
"Fel teulu, hoffwn ddweud 'diolch' o waelod calon."
Ymchwiliad
Yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, fe wnaeth Theresa May a Jeremy Corbyn hefyd dalu teyrnged i Carl Sargeant.
Dywedodd yr arweinydd Llafur: "Rwy'n gobeithio y bydd y Tŷ yn ymuno â mi i anfon ein cydymdeimladau dwysaf i deulu a ffrindiau'r diweddar Carl Sargeant, yr Aelod Cynulliad Llafur yng Nghymru fu farw yn drasig yr wythnos diwethaf.
Mewn ymateb dywedodd y prif weinidog: "Rwy'n ymuno â chi wrth gynnig cydymdeimladau i deulu a ffrindiau Carl Sargeant, a dwi'n siŵr fod hynny'n wir ar gyfer y Tŷ cyfan."
Daeth marwolaeth Mr Sargeant bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet, yn dilyn honiadau o ymddwyn yn amhriodol gyda menywod.
Roedd AC Alun a Glannau Dyfrdwy yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn.
Clywodd cwest ddydd Llun mai crogi oedd achos ei farwolaeth, yn ôl dyfarniad cychwynnol gan y crwner.
Mae'r prif weinidog wedi addo ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo fel ysgrifennydd cymunedau, a'i wahardd o'r Blaid Lafur.
Ers marwolaeth Mr Sargeant mae rhai cyn-aelodau blaenllaw o Lywodraeth Cymru wedi disgrifio "awyrgylch wenwynig" o fwlio tra roedden nhw yno.
Ond mae aelodau eraill o'r llywodraeth ar y pryd wedi dweud ers hynny nad ydyn nhw'n adnabod y darlun hwnnw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2017