Diswyddo Carl Sargeant 'oherwydd honiadau gan fenywod'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Carwyn Jones bod "dim dewis" ganddo ond i gyfeirio achos Carl Sargeant at Lafur Cymru

Mae Carwyn Jones wedi dweud fod Carl Sargeant yn wynebu ymchwiliad oherwydd digwyddiadau yn ymwneud â menywod.

Ddydd Gwener fe wnaeth y prif weinidog ad-drefnu ei gabinet, gydag AC Alun a Glannau Dyfrdwy yn un o'r rheiny a gollodd eu swyddi fel gweinidog.

Ar y pryd fe ddywedodd Mr Sargeant bod y datblygiad yn "sioc" ac nad oedd yn gwybod beth oedd natur yr honiadau.

Mae wedi galw am ymchwiliad "brys" er mwyn gallu clirio'i enw.

'Dim dewis'

Dywedodd Mr Sargeant ddydd Gwener ei fod yn awyddus i ddychwelyd i'r llywodraeth yn dilyn yr ymchwiliad. Mae wedi cael cais i ymateb i sylwadau Mr Jones ddydd Llun.

Wrth gyfeirio at yr honiadau yn erbyn Mr Sargeant, dywedodd y prif weinidog ei fod wedi dod yn ymwybodol ddechrau'r wythnos o sawl "digwyddiad".

"Fe glywais i am bethau oedd wedi digwydd... a thrwy'n swyddfa i fe wnaethon ni glywed beth oedd gyda'r menywod hyn i'w ddweud," meddai.

"Ar ôl cael eu storïau nhw yna roeddwn i'n teimlo fel bod dim dewis gyda fi ond i roi hwn ymlaen i Lafur Cymru er mwyn arolygu'r peth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carl Sargeant wedi bod yn AC Alun a Glannau Dyfrdwy ers 2003

Ychwanegodd nad oedd Llafur Cymru "erioed", cyn belled â'i fod e'n gwybod, wedi cadw honiadau am wleidyddion yn gyfrinachol er mwyn eu cael nhw i fihafio.

"Does neb o fy mhlaid i erioed wedi cael eu gwarchod mewn unrhyw ffordd yn erbyn unrhyw beth maen nhw falle wedi'i wneud," meddai.

"Dwi wedi clywed sôn am hyn yn San Steffan, ond nid felly ni'n gweithio fel plaid.

"Tase unrhyw beth yn cael ei ddweud ynglŷn â rhai o'n haelodau ni, bydden ni'n edrych mewn iddo fe ar y pryd, nid cadw fe yn y poced cefn i ddefnyddio yn erbyn y person hynny."

'Neb wedi'u gwarchod'

Mewn ymateb i sylwadau cyn-ymgynghorydd i'r llywodraeth dros y penwythnos fod aflonyddu rhywiol wedi bod yn digwydd ym Mae Caerdydd ers blynyddoedd, dywedodd Mr Jones ei bod hi'n bwysig i bobl siarad.

Dywedodd Cathy Owens fod "nifer fechan o ddynion" yn aflonyddwyr rhyw ac yn "manteisio ar eu safle gan wybod y bydd eu pleidiau'n eu hamddiffyn".

"Does dim rheswm i mi ddim credu beth mae Cathy yn ei ddweud," meddai'r prif weinidog.

"Beth alla' i ddweud ydy o'm mhrofiad i, dwi ddim yn gwybod am neb sydd 'di 'neud y pethau hyn. Dyw e ddim yn golygu bod nhw ddim wedi digwydd wrth gwrs, ond dwi'n bersonol ddim wedi clywed dim byd."

Ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol pa unigolion roedd Ms Owens yn cyfeirio atyn nhw: "Does neb o fy mhlaid i erioed wedi cael eu gwarchod mewn unrhyw ffordd yn erbyn unrhyw beth maen nhw falle wedi'i wneud."

Mae disgwyl nawr i arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad gyfarfod ddydd Mawrth i drafod y mater a gweld beth fyddai modd ei wneud.

"Beth allwn ni ddim ei wneud yw bod mewn sefyllfa lle mae'n ymddangos fel bod ein strwythurau ni yn wannach na'r rheiny yn San Steffan," meddai.