Sargeant: Tro pedol ar ymchwiliad annibynnol

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi cytuno i gynnal ymchwiliad annibynnol i'r penderfyniadau a wnaed ynghylch Carl Sargeant cyn ei farwolaeth.

Dywedodd Mr Jones y dylai'r ymchwiliad gael ei arwain gan QC amlwg.

Nid yw teulu Mr Sargeant yn fodlon gyda'r cyhoeddiad, gan ddweud nad yw'r broses yn gwbl annibynnol.

Daeth y penderfyniad am ymchwiliad ar ôl i gyfreithiwr ar ran teulu Mr Sargeant ryddhau datganiad oedd yn beirniadu datganiad a wnaed gan Carwyn Jones ddoe.

Yn y datganiad ddydd Iau, ar ôl cyfarfod ac ACau Llafur ym Mae Caerdydd, dywedodd Mr Jones pe na bai cwest yn ateb yr holl gwestiynau yna byddai yn ceisio cael atebion drwy ddulliau gwahanol.

Ond doedd dim ymrwymiad pendant yn y datganiad i gynnal ymchwiliad annibynnol.

Daw penderfyniad Mr Jones i gynnal ymchwiliad annibynnol yn dilyn galwadau o fewn ei blaid ei hun yng ogystal â'r gwrthbleidiau.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cyn-weinidog 49 oed ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah fore Mawrth.

Dywedodd datganiad cyfreithiwr teulu Mr Sargeant y byddai maes ymchwil cwest yn un cyfyng iawn, gan ymdrin yn bennaf a sut y bu farw.

Ychwanegodd na fyddai cwest yn gallu taflu bai am y farwolaeth, ac y dylai Mr Jones, sy'n fargyfreithiwr, fod yn gwybod hynny.

"Fel cyfreithiwr hefyd dylai wybod y byddai cyhoeddi neu ddechrau ymchwiliad annibynnol ddim yn rhwystro cwest rhag mynd ymlaen.

"Rydym o'r farn y dylai ymchwiliad annibynnol gael ei sefydlu ar unwaith, ac y dylai penodiad y cadeirydd a'r swyddogion gael ei benderfynu gan gorff sy'n gwbl annibynnol o Lywodraeth Cymru ac mewn ymgynghoriad a'r teulu.

"Fe fydd ymchwiliad annibynnol yn penderfynu'r rhesymau am fethiannau difrifol wrth ddilyn trefniadau, ymarferiadau a phrotocol cywir, a'r rhesymau am yr ymwrthod â chyfrifoldeb a dyletswydd gofal oedd yn ddyledus i Carl."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Carwyn Jones

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Carwyn Jones

Cysylltu gyda'r teulu

Dywedodd llefarydd ar ran y prif weinidog ei fod nawr yn cytuno y dylai ymchwiliad annibynnol gael ei gynnal.

"Er mwyn sicrhau fod hynny yn digwydd yn annibynnol o'i swyddfa, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol i wneud y gwaith paratoi ar gyfer yr ymchwiliad, ac i gysylltu gyda'r teulu er mwyn trafod y maes ymchwil a phenderfynu pwy fydd yn arwain"

"Ein dealltwriaeth ni yw na ddylai ymchwiliad o'r fath ddigwydd cyn canlyniad cwest - ond byddwn yn cynghori ymhellach ar y mater."

Wrth ymateb i gyhoeddiad Carwyn Jones, fe wnaeth teulu Carl Sargeant gyhoeddi ail ddatganiad i ddweud nad oedden nhw'n fodlon gyda'i gyhoeddiad.

Dywedodd y teulu: "I ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog ac i ailadrodd cais gwreiddiol y teulu - rhaid i'r ymchwiliad gael ei sefydlu gan gorff sydd yn gwbwl annibynnol o Lywodraeth Cymru.

"Mae'r Ysgrifennydd Parhaol yn adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weinidog ac felly ddim yn gwbl annibynnol.

"Rydym yn credu y dylai corff gwirioneddol annibynnol hefyd fod yn gyfrifol am gytuno maes gorchwyl, a phenodi cadeirydd ac ysgrifenyddiaeth yr ymchwiliad."

'Digwyddiadau'

Cafodd Mr Sargeant 49 oed ac AC Alun a Glannau Dyfrdwy, ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah fore Mawrth.

Y gred yw iddo ladd ei hun.

Yr wythos flaenorol roedd Mr Sargeant wedi colli ei swydd yn y cabinet yn dilyn honiadau o "ddigwyddiadau" yn ymwneud â menywod.

Fe ddywedodd ar y pryd bod angen ymchwiliad "brys" er mwyn gallu clirio'i enw.

Mae teulu Mr Sargeant yn anhapus na chafodd mwy o fanylion eu rhyddhau er mwyn iddo allu amddiffyn ei hun.