100 busnes yn annog creu morlyn llanw Bae Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dros 100 o fusnesau wedi llofnodi llythyr yn galw ar y Prif Weinidog i roi £1.3bn i gynllun morlyn llanw Bae Abertawe cyn gynted â phosib.
10 mis yn ôl, fe wnaeth adroddiad annibynnol gefnogi safbwynt y datblygwyr y byddai'r cynllun yn "gyfraniad mawr" i'r diwydiant ynni ym Mhrydain.
Ond mae'n ymddangos bod gan Lywodraeth y DU bryderon ynglyn â maint y cymhorthdal sydd ei angen o'i gymharu â faint o ynni fyddai'n cael ei gynhyrchu.
Bydd y llythyr yn cael ei gyflwyno i swyddfa'r Prif Weinidog ddydd Llun.
Ymhlith y cwmnïau sydd wedi llofnodi'r llythyr mae cwmni dur Tata, wisgi Penderyn, Bwydydd Castell Howell, cwmnïau adeiladu WRW a Dawnus, Clwb Pêl-Droed Abertawe a chlwb rygbi Y Gweilch.
Mae'r cwmni y tu ôl i'r fenter yn honni y byddai'r cynllun yn darparu digon o drydan i 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlynedd.
Bydd Arweinydd Cyngor Sir a Dinas Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, a chynrychiolwyr o rai o'r cwmniau yn cyflwyno'r llythyr i 10 Downing Street ddydd Llun.
Dywedodd y Cynghorydd Stewart: "Mae 10 mis wedi pasio ers i Charles Hendry, asesydd annibynnol ar ran Llywodraeth y DU, ddod i'r casgliad na fyddai neb yn ei ddifaru."
Cadw hyder buddsoddwyr
Ychwanegodd: "Dyna'i gyd ydyn ni wedi ei glywed ers hynny ydy bod y llywodraeth am wneud penderfyniad yn y dyfodol agos. Ond digon yw digon.
"Mae'n rhaid cael ateb cyn gynted â phosib er mwyn cadw hyder ein buddsoddwyr, felly dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wrando ar bobl de Cymru a rhoi'r caniatad i'r cynllun nawr."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod nhw'n "ystyried argymhellion adroddiad Charles Hendry ac yn cymryd eu hamser i benderfynu beth fyddai orau i ddefnyddwyr trydan ym Mhrydain a'r trethdalwyr yn y dyfdol hefyd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2017