West Brom yn diswyddo'r Cymro Tony Pulis fel ei rheolwr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Tony Pulis wedi cael ei ddiswyddo fel rheolwr West Bromwich Albion yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Roedd Pulis, sy'n dod o Billgwenlli ger Casnewydd, wedi bod yn rheoli West Brom ers 2015.
Mae Pulis yn enw sy'n cael ei gysylltu gyda swydd rheolwr Cymru gan rai, ers i Chris Coleman ymddiswyddo wedi bron i chwe blynedd yn y rôl.
Dydy West Brom heb ennill gêm ers 22 Awst eleni, ac ers hynny maen nhw wedi cael pedair gêm gyfartal a cholli saith.
Dywedodd Pulis wedi'r golled o 4-0 yn erbyn Chelsea ddydd Sadwrn na fyddai'n "synnu os caiff ei ddiswyddo".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2017