Beth yw dyfodol y fferm deuluol Gymreig?
- Cyhoeddwyd
Beth sy'n debyg o ddigwydd i ffermydd teuluol ar hyd a lled Cymru pan nad yw aelodau'r genhedlaeth nesa' yn awyddus i aros yn y diwydiant amaethyddol?
Ers dros 40 mlynedd mae Huw a Carys Davies wedi bod yn ffermio Trefaes Fawr ger Castell Newydd Emlyn ond does 'na 'run o'u pedair merch yn awyddus i gymryd yr awennau pan fydden nhw mewn oed ymddeol.
Mae Elen, un o'r merched, yn dyfalu beth fydd yn digwydd i Trefaes Fawr a ffermydd tebyg yn y dyfodol.
Mae gan ffermydd werth sentimental ac maen nhw fel arfer yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall. Does neb eisiau gweld ei fferm deuluol yn cael ei gwerthu i ddieithryn.
Dyw'r sefyllfa yma ddim yn un anghyfarwydd ym myd amaeth heddiw. Mae prisiau llaeth ac anifeiliaid yn ansefydlog iawn a does dim cymaint o chwant ffermio ar yr ieuenctid rhagor. Wrth i reolau a rheoliadau newydd gael eu rhoi ar waith yn flynyddol mae hyn yn cael effaith ar y ffermwyr a'u cyflogau.
Mae adroddiad diweddar ar ddyfodol ffermwyr ifanc gan fanc y NatWest, dolen allanol yn awgrymu mai dim ond 13% o ffermwyr y DU oedd dan 45 oed yn 2013.
Problem sydd yn fyw amlwg heddiw yw'r ffaith nad yw'r fferm deuluol yn gallu cynnal mwy nag un teulu fel oedd yn digwydd flynyddoedd yn ôl. Gall rhieni ddim fforddio rhoi cyflogau mawr i'w plant a'u cadw nhw a'u teuluoedd i weithio ar y fferm.
Erbyn heddiw mae angen llawer mwy o dir ac anifeiliaid i wneud elw. Mae safon byw wedi codi'n sylweddol, ond prin yw'r cynnydd wedi bod ym mhrisiau'r cynnyrch. Yn ôl AHDB (Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth) dim ond o 0.3% y mae pris ŵyn tew wedi cynyddu ar gyfartaledd ers 2013. Felly, pa obaith sydd gan ffermwyr i gynnal bywoliaeth fel hyn?
Arallgyfeirio
Mae nifer o ffermwyr wedi penderfynu arallgyfeirio i gadw dau pen llinyn ynghyd. Yn eu plith mae teulu Evans o Cilgwyn yng ngogledd Sir Benfro.
Tra bod y rhieni a'u pedwar plentyn yn parhau i ffermio ychydig o anifeiliaid yn organig maen nhw wedi dechrau busnes bragdy meicro trwy foderneiddio ac addasu adeiladau traddodiadol y fferm i fod yn fragdy.
Mae Bragdy Bluestone yn cyflenwi cwrw i nifer o fusnesau lleol. Amy Evans, un o blant y busnes sy'n egluro'r rhesymau dros newid cyfeiriad:
"Doedd y fferm ddim yn ddigon mawr i gynnal teulu o chwech. Rwy'n teimlo mai'r unig ffordd o gynnal y teulu, y fferm a'n ffordd o fyw yw trwy ehangu'r fferm. Byddai mwy o dir a mwy o anifeiliaid yn creu rhagor o waith."
Wedi dweud hynny mae Amy yn credu bod yr oriau maith a'r llwyth gwaith yn gallu bod yn ffactorau sy'n gwneud i unigolion droi eu cefnau ar y syniad o ffermio.
"Rwy'n credu bod ffermio'n rhywbeth sydd yn eich gwa'd chi, unai 'dych chi eisiau bod yn ffermwr neu r'ych chi'n casáu'r syniad."
Mae fy rhieni i hefyd wedi defnyddio hen dŷ fferm i arallgyfeirio. Mae Fferm Blaensilltyn yn eistedd yng nghanol gwyrddni cefn gwlad ac yn llawn drwy gydol y flwyddyn fel tŷ gwyliau.
Maen nhw'n gwybod bod yna gyflog sefydlog bob wythnos sy'n wahanol iawn i'r cyflog sydd i'w gael wrth ffermio. Daw pobl o bob cwr o'r byd i brofi bywyd gwahanol cefn gwlad gorllewin Cymru.
Er hyn, dwi'n amau a yw nifer o ymwelwyr yn deall sut y mae rhai o'u harferion nhw yn gallu gwneud niwed i fywoliaeth ffermwyr Cymru.
Wrth ddewis cig sy'n cael ei allforio o wledydd tramor fel Seland Newydd yn hytrach na'r DU, mae llai o alw am gig o Gymru, sy'n golygu llai o arian i'n ffermwyr ni.
Dyfodol ansicr
Mae'r ffydd yn nyfodol amaethyddiaeth yn pylu. Mae'n bosib y bydd y galw am gynnyrch Cymreig yn lleihau'n sylweddol wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ffermydd ein gwlad yn derbyn £250m o gymorthdaliadau Ewropeaidd bob blwyddyn.
Heb y cymorthdaliadau yma, mae'n debyg y byddai nifer o ffermydd yn dioddef a byddai prisiau tir yn cwympo. Byddai hynny yn ergyd hefyd i'r economi ehangach gan y bydd yna lai o waith i gontractwyr sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth am ran o'u cyflog.
Sut, felly, gallwn ni ddisgwyl i bobl ifanc fentro i fyd amaethyddiaeth pan mae'n fwy diogel i gael prentisiaeth neu waith sefydlog gyda chyflog da a chyson?
Dyw ffermwyr ddim yn dewis eu swydd i gael arian mawr ac oriau hwylus. Maen nhw'n gwneud y gwaith caled a thrwm oherwydd gwir gariad am y gwaith a'r anifeiliaid.
Os na fydd newid yn y dyfodol, a gwell incwm i fedru eu cynnal nhw a'u teuluoedd, mae dyfodol amaethyddiaeth Cymru yn edrych yn llwm iawn.
Mae Elen Davies yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.