Powys: Gofyn am gymorth llywodraeth â gwasanaethau plant
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Powys wedi gofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru er mwyn adfer gwasanaethau plant y sir.
Ym mis Hydref fe wnaeth arolygwyr rybuddio fod risg o niwed i blant oherwydd methiannau yng ngwasanaethau cymdeithasol Powys.
Yn dilyn yr adroddiad, mae gan y cyngor ddeufis arall i wella neu weld gweinidogion yn cymryd cyfrifoldeb dros y gwasanaeth.
Dywedodd gweinidogion y llywodraeth eu bod yn gweithio ar "becyn cynorthwyol priodol" gyda'r awdurdod a chyrff eraill.
'Cymryd camau'
Fis diwethaf fe ddywedodd adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) fod tystiolaeth o gyfleoedd gafodd eu methu i ddiogelu plant.
"Mae'r diffyg asesu, ymyrraeth a chefnogaeth, yn ogystal â goruchwyliaeth a dilyniant gwael, wedi golygu fod plant yn wynebu risg sylweddol," meddai'r adroddiad.
Wedi i ganfyddiadau'r adroddiad gael eu cyhoeddi daeth i'r amlwg fod yr awdurdod hefyd yn siarad â'r heddlu am y posibilrwydd fod data perfformiad gwasanaethau plant wedi cael ei newid.

Mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Mawrth dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies fod cynllun gwella ar gyfer y cyngor yn cael ei ystyried.
"Rydyn ni'n disgwyl gweithio gyda'r awdurdod lleol i gryfhau'r camau arfaethedig a sicrhau fod y cynllun yn darparu llwybr realistig a hir dymor er mwyn sicrhau gwelliant a chynaliadwyedd sylweddol yng ngwasanaethau plant Powys," meddai'r datganiad.
Ychwanegodd y gweinidogion fod arweinydd y cyngor, Rosemarie Harris wedi gofyn i weinidogion am gefnogaeth statudol, a'i fod wedi cwrdd â Ms Harris a phrif weithredwr dros dro'r sir ddydd Llun.
"Roedd trafodaeth ddefnyddiol ac mae'r gwaith bellach wedi dechrau er mwyn datblygu pecyn cynorthwyol priodol gyda Chyngor Powys, Cymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid eraill," meddai'r datganiad.