Iechyd meddwl plant: 'Angen gwneud mwy'

  • Cyhoeddwyd
sally holland

Nid yw'r gwahanol asiantaethau sy'n ceisio mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl ymysg plant yng Nghymru "wedi cyffwrdd â wyneb y problemau" yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Dywedodd Yr Athro Sally Holland, er ei bod hefyd yn derbyn fod peth cynnydd, fod yna "dipyn o ffordd i fynd eto cyn y byddwn yn cyrraedd y nod."

Daeth ei sylwadau wrth Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y cynulliad dderbyn tystiolaeth ar wasanaethau iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc.

Dywedodd yr Athro Holland bod cynnydd wedi cael ei wneud wrth geisio gwella mynediad i wasanaethau arbenigol i blant, gyda thargedau ar gyfer amseroedd aros "uchelgeisiol" bellach ar waith.

Ond ychwanegodd Yr Athro Holland "nad yw'r holl asiantaethau sy'n gyfrifol am hyn, wedi llwyddo i ddiwygio'r gwaith o atal cyflyrau o'r fath drwy ymyrraeth gynnar."

Dywedodd bod mynediad i ddarpariaeth eirioli iechyd meddwl i bobl ifanc yn anghyson ar draws Cymru, a bod hynny'n golygu nad oedd rhai plant yn cael y cymorth maent ei angen.

"Tydi hi ddim ond yn ofynnol i Gynghorau Iechyd Cymunedol i ddarparu gofal ar gyfer y rheini sy'n 18 oed neu hŷn, ac mae'r ddarpariaeth ar gyfer y rhai dan 18 oed yn anghyson yn fy marn i.

"Mae rhai byrddau iechyd wedi comisiynu darparwyr allanol i ddarparu'r cymorth, ond nid yw hynny'n cael ei wneud yn gyson," ychwanegodd Yr Athro Holland.