Galw am beidio gorfodi cynghorau Cymru i gydweithio
- Cyhoeddwyd
Dylai'r llywodraeth ollwng cynlluniau i orfodi cynghorau i gydweithio, yn ôl un prif gynrychiolydd awdurdodau lleol yng Nghymru.
Dywedodd Debbie Wilcox, pennaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), fod angen "cyfnod newydd o ryddid a hyblygrwydd" i gynghorau.
Mewn araith yng Nghaerdydd, mae wedi galw ar yr ysgrifennydd cabinet newydd Alun Davies i roi'r gorau i gynlluniau ei ragflaenydd.
Cafodd Mr Davies ei benodi'n Ysgrifennydd Llywodraeth Leol pan gafodd y cabinet ei ad-drefnu ddechrau'r mis.
Beirniadu toriadau
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio pasio deddfwriaeth fyddai'n gorfodi cynghorau i gydweithio ar rai gwasanaethau.
Cafodd y cynigion hynny eu llunio wedi i Lafur gael gwared ar gynlluniau cynharach i uno cynghorau.
Ond dywedodd Ms Wilcox: "Anghofiwch am orfodi. Anghofiwch am yr angen i ddeddfwriaethu mewn 12 mis.
"Fy nghynnig i yw y dylai pob un o'r pedwar rhanbarth ddechrau trafodaethau yn syth gyda'r ysgrifennydd cabinet i drafod y ffordd ymlaen."
Byddai llwyddo i osgoi cydweithio gorfodol yn fuddugoliaeth arall i CLlLC, wedi i Lywodraeth Cymru eisoes ildio ar ddiwygiadau blaenorol.
Yn y seminar fe wnaeth Ms Wilcox feirniadu llywodraethau Cymru a'r DU am doriadau - a hynny gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn y gynulleidfa.
Fe wnaeth hi gyhuddo Llywodraeth Cymru o "wleidyddiaeth datganiadau i'r wasg".
Ychwanegodd fod addewidion o wariant "ychwanegol", tra bod gwasanaethau'n dod dan bwysau cynyddol, wedi achosi "misoedd o ddryswch wrth i'r ffigyrau go iawn ddod i'r amlwg a drwgdybiaeth gynyddu".
Mewn ymateb i araith Ms Wilcox, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymrwymo i weithio gyda llywodraeth leol i yrru gwelliannau a sicrhau fod awdurdodau a gwasanaethau allweddol Cymru'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol."
'Dim angen arbedion'
Yn y gynhadledd fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford ddweud y byddai cynghorau yn cael mwy o arian yn 2019/10, ond doedd methu rhoi ffigwr union.
O ganlyniad i newidiadau yng nghynlluniau gwario Llywodraeth y DU gafodd eu cyhoeddi yng nghyllideb y Canghellor Philip Hammond, ni fydd rhaid canfod toriadau o £100m yn 2019 bellach.
"Mae'n edrych i mi fel na fydd yn rhaid canfod y £100m yn y ffordd roedden ni wedi'i ofni," meddai Mr Drakeford.
Byddai llywodraeth leol yn derbyn rhywfaint o'r arian, meddai, ond wnaeth y gweinidog ddim manylu ymhellach.
Mae cynghorau wedi bod yn galw am fwy o arian yn ddiweddar yn dilyn pwysau cynyddol ar eu cyllideb, gyda ffynonellau yn y gynhadledd yn dweud fod cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol yn un o'r prif bryderon.
Maen nhw'n dweud fod angen tua £60m arall ar awdurdodau lleol yn 2019/20, ond na fyddai hynny hyd yn oed yn ddigon i daclo costau cynyddol.