Cynghorau i ddileu ffioedd claddu ac amlosgi plant
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi dod i gytundeb i ddileu ffioedd claddu ac amlosgi ar gyfer plant yng Nghymru.
Fe ddaw'r cyhoeddiad wrth i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gymryd rhan yn Seminar Hydref Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae'r cytundeb yn dod ar ffurf memorandwm cyd-ddealltwriaeth, sy'n amlinellu'r egwyddor fod cynghorau Cymru yn rhoi'r gorau i godi tâl am gladdu plant ar draws y wlad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo darparu cyllid o £1.5 miliwn hyd at 2020, er mwyn cefnogi'r cynllun, ac fe fydd y cyllid hwn hefyd ar gael i ddarparwyr mynwentydd ac amlosgfeydd yng Nghymru, sy'n cytuno i beidio â chodi tâl dan yr amgylchiadau hyn.
Fe fydd y memorandwm yn cael ei roi ar waith ar unwaith, ac wrth annog y cynghorau i roi'r cytundeb ar waith cyn gynted â phosibl, dywedodd Carwyn Jones bod "rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli plentyn.
"Rwy'n falch ein bod yn gallu gweithio gydag awdurdodau lleol i leddfu rhywfaint o'r pwysau sydd ar ysgwyddau rhieni sy'n galaru yn ystod cyfnod hynod dorcalonnus."
Un arall sydd wedi croesawu'r memorandwm ydi Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru: "Mae'n anodd dychmygu pa mor anodd ydyw i deuluoedd sy'n galaru i ymdopi ag amgylchiadau mor drist. Gobeithio y bydd y newid hwn yn lleddfu unrhyw bwysau diangen, ac yn helpu rhywfaint ar y teuluoedd hynny sy'n galaru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2015