Cofeb ar gyfer bedd cyffredin yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae cofeb wedi ei gosod ar fedd cyffredin ym Mynwent Llanbeblig yng Nghaernarfon ble cafodd babanod, plant ac oedolion eu claddu.
Roedd y bedd ym Mynwent Llanbeblig yn un "dienw" ar gyfer pobl o wyrcws Bodfan, y dref a'r ardal gyfagos oedd ag amgylchiadau anffodus neu druenus.
Fe gafodd gyfanswm o 228 o bobl eu claddu yno rhwng 1922 a 1961.
Pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Caernarfon sydd wedi gweithio ar y prosiect.
Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: "Mae'n ysgytwol meddwl fod ymhell dros 200 o bobl wedi eu claddu yn y bedd cyffredin ym Mynwent Llanbeblig, rhai ohonyn nhw mor ddiweddar â dechrau'r 1960au.
'Cofio'
"Roedd rhain yn fabanod a phlant fu farw'n rhy gynnar, yn famau dibriod fu farw wrth esgor ac yn oedolion oedd yn byw yn yr hen wyrcws yn y dre'.
"Mae'n bwysig fod yna gofeb i gofio'r 228 o unigolion yma sydd wedi eu claddu yn y bedd.
"Rwy'n falch gweld fod blodau eisoes wedi eu gosod ac rwy'n sicr y bydd y gofebfaen yn lleoliad lle bydd nifer yn mynd fel arwydd o barch ac i fyfyrio am y rheini sydd yna yn gorwedd.
"Rydym yn ddiolchgar am y cydweithio sydd wedi bod ar y prosiect ac hoffen ni ddatgan ein gwerthfawrogiad am y gofebfaen, sy'n rhodd gan gwmni o drefnwyr angladdau, ac hefyd i Karen Owen am y gerdd addas ar y gofebfaen.
"Mae'n deyrnged briodol i'r unigolion sydd wedi eu rhoi i orffwys."