Cyhuddo abad o 'amau' fod mynach Ynys Bŷr yn bedoffeil

  • Cyhoeddwyd
Ynys Byr
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Tad Thaddeus Kotik ym 1992

Roedd abad wedi amau fod mynach ar Ynys Bŷr yn bedoffeil ond heb ddweud unrhyw beth am y peth am flynyddoedd, yn ôl un dioddefwr.

Mae 11 o fenywod wedi cyhuddo'r Tad Thaddeus Kotik, fu farw yn 1992, o'u cam-drin yn yr 1970au a 1980au.

Mae abad presennol yr ynys, y Brawd Daniel van Santvoort wedi ymddiheuro am y ffordd y cafodd y cwynion eu delio â nhw yn 1990.

Ond mae'r prif achwynydd mewn achos sifil yn erbyn yr abaty yn dweud fod y Brawd Daniel wedi amau'r Tad Thaddeus o gam-drin plant, a'i fod hyd yn oed wedi codi'r mater ag o.

Mewn datganiad, mae'r Brawd Daniel wedi dweud ei fod yn ymwybodol o honiadau yn erbyn y Tad Thaddeus yn 2010 - pedair blynedd yn gynharach na'r hyn a ddywedodd yn flaenorol - ond dywedodd mai sgwrs breifat oedd hynny ac na chafodd honiad ffurfiol o gam-drin ei wneud tan 2014.

'Dyna oedd ei diwedd hi'

Fe wnaeth rhagflaenydd y Brawd Daniel, y Brawd Robert O'Brien fethu a chyfeirio'r cwynion i'r heddlu pan gawson nhw eu gwneud yn wreiddiol yn 1990.

Ond dywedodd y dioddefwr, Charlotte - sydd bellach yn byw yn Sydney, Awstralia - fod yr abad presennol wedi cyfaddef iddi yn 2014 ei fod yn amau'r Tad Thaddeus o fod yn bedoffeil.

"Dywedodd yr abad wrthym ni - o flaen tyst - ei fod o ei hun wedi amau fod y Tad Thaddeus yn bedoffeil a'i fod wedi codi'r mater ag o," meddai.

"Dywedodd mai ymateb y Tad Thaddeus oedd 'dydych chi ddim yn bod yn garedig' a dyna oedd ei diwedd hi."

Fe wnaeth yr abad wedyn godi'i ysgwydd ac estyn ei ddwylo allan fel petai'n dweud "ei fod wedi trïo a bod dim arall y gallai ei wneud", meddai.

Cafodd manylion eu pasio i'r heddlu yn dilyn honiadau gafodd eu gwneud y flwyddyn honno, ac fe gafwyd setliad y tu allan i'r llys.

Disgrifiodd Charlotte ddioddefwyr yn adrodd am y cam-drin "sawl gwaith" i rieni, staff ysgol a chyn-abad, ond dim "ymchwiliad effeithiol" yn dilyn.

"Fe wnaeth popeth syrthio ar glustiau byddar, crefyddol. Doedd neb eisiau clywed y geiriau. Neb. Mae'n rhy anghyfforddus i bawb," meddai.

"Roedden ni'n cael pobl yn dweud 'plîs ewch i ffwrdd ferched a stopiwch ddweud pethau mor ffiaidd'."

Dywedodd fod yr abaty wedi honni fod y menywod wedi rhedeg allan o amser i gymryd camau oherwydd bod terfynau amser yn y ddeddfwriaeth, gan alw hynny'n "annheg".

"Mae dweud na wnaethon ni ddod yn ein blaenau cyn ein pen-blwydd yn 21 oed yn amlwg yn anghywir - mae gennym ni'r dogfennau i brofi hyn," meddai.

"Mae mor, mor gythreulig i ddefnyddio dihangfa gyfreithiol, hen ffasiwn - sydd wedi'i wahardd mewn llefydd eraill - yn ein herbyn."

'Ymddiheuriad gwag'

Dywedodd Charlotte mai ei neges hi i'r cyhoedd oedd "peidiwch darllen hyn a mynd yn drist - ewch yn flin".

"Pam fod cymaint o ddynion wedi'u hordeinio eisiau cael perthnasau â merched ifanc? Mae'n rhaid i ni ateb y cwestiwn yma," meddai.

"Dydi o ddim yn bechod, neu'n drasiedi, mae'n warth ac mae'n rhaid iddo stopio."

Fe wnaeth hi hefyd holi pam na wnaeth y Brawd Daniel gysylltu â'r heddlu pan wnaeth ei chyfnither Adele honiadau yn 2010.

Fe wnaeth Adele ddisgrifio ymddiheuriad diweddar fel un "gwag", gan ddweud fod yr abad yn aml yn cyfeirio at "honiadau" er bod yr achos wedi ei setlo.

Dywedodd y byddai unrhyw ymddiheuriad yn gorfod cydnabod y cam-drin a ddigwyddodd.

Ychwanegodd fod geiriau'r abad "wir yn gywilyddus", gan ddweud: "Mae angen i'r ynys gael ei hadnabod fel 'ynys cywilydd' o hyn ymlaen."

Datganiad yr Abad

Mewn datganiad yn hwyr brynhawn Gwener, dywedodd y Brawd Daniel Van Santvoort:

"Daeth y person yr ydych yn cyfeirio ati i fy ngweld sawl gwaith yn 2010. Roedd am gael cyngor cyfrinachol am drafferthion yn ei bywyd ac fe geisiais ei helpu.

"Yn ystod un o'r cyfarfodydd fe wnaeth y person siarad am y Tad Thaddeus a'r cam-drin honedig.

"Roedd y sgwrs yn un breifat ac roeddwn yn gweithredu mewn modd bugeiliol yn unig ac yn parchu cyfrinachedd. 'Nes i erioed ystyried y byddai dioddefwyr eraill o gam-drin.

"Yn 2014 fe gafodd honiad o gam-drin ei wneud i mi, ac fe wnes gyfeirio hynny at yr heddlu.

"Rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant am yr anwaith ac yn gofyn i unrhyw un sydd â phryderon i'w hadrodd i'r heddlu."

Ddydd Gwener fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys fod dau berson arall wedi adrodd am droseddau gan y Tad Thaddeus rhwng 1977 ac 1987.

Maen nhw hefyd yn ymchwilio i honiadau o ymosodiad rhyw arall gan ymwelydd i Ynys Bŷr gafodd eu gwneud gan un o'r chwe dioddefwr gwreiddiol.

Mae rhiant un arall o'r dioddefwyr honedig, Emily, wedi mynnu ymddiheuriad gan y Tad Daniel, gan ddweud nad oedden nhw wedi clywed nôl ganddo wedi iddyn nhw gysylltu ag o.

Dywedodd mam Emily fod honiadau'r abaty o fod yn "wirioneddol flin" yn anghyson â'u gweithredoedd, wrth i'r menywod ofyn am gydnabyddiaeth o'r troseddau, ymddiheuriad ac iawndal.

Os yw'r abaty wir yn edifar ac yn teimlo tristwch fod clerigwyr yn cael eu heffeithio gan un o'u plith nhw, pam wnaethon nhw ymladd yn ein herbyn mor ddidrugaredd yn ystod yr achos?" holodd.

"Pam wnaethon nhw adael i'w cyfreithwyr ein cyhuddo o aros yn rhy hir cyn codi llais? O fod methu â phrofi fod y cam-drin wedi digwydd? Ac yna chynnig iawndal mor dila?"

Llythyr

Dywedodd Emily nad oedd datganiad y Brawd Daniel yn ymddiheuriad am y cam-drin, dim ond am beidio ag adrodd y troseddau i'r awdurdodau.

"Dydw i ddim wedi derbyn unrhyw empathi na chefnogaeth ganddo mewn unrhyw ffordd - a dweud y gwir, dim ond gelyniaeth a chasineb," meddai.

Mae ei mam wedi cadw llythyr gan y cyn-abad, y Brawd Robert O'Brien ers dros 30 mlynedd fel tystiolaeth.

Ynddo mae'n addo dweud wrth rieni am y risg yr oedd y Tad Thaddeus yn peri, ac yn gobeithio y byddai athrawon ysgol yn cael eu perswadio i adrodd am y Tad Thaddeus.

Mae mam Emily wedi galw ar y Brawd Daniel i'w chyfarfod a thrafod beth ddigwyddodd.

Mae un arall o'r chwe dioddefwr wedi dweud y byddai'n ceisio derbyn yr ymddiheuriad ond ei fod yn bechod ei fod wedi dod mor hwyr.

"Rydych chi'n pendroni a yw e'n ddiffuant neu o ganlyniad i gael eu gyrru mewn i gornel gyda'r sylw yn y cyfryngau a'r pryder am yr effaith y bydd yn ei gael ar dwristiaeth," meddai.