Honiadau pellach o gamdriniaeth gan fynach ar Ynys Bŷr

  • Cyhoeddwyd
Ynys Byr

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiadau pellach o gam-drin rhyw hanesyddol gan fynach ar Ynys Bŷr.

Daw'r ddau honiad newydd yn dilyn adroddiadau gan 11 o fenywod fod y Tad Thaddeus Kotik wedi eu cam-drin ar Ynys Bŷr, Sir Benfro yn ystod y 1970au a'r 1980au.

Dywedodd ditectifs fod yr honiadau newydd hefyd yn ymwneud â'r diweddar Dad Kotik dros yr un cyfnod.

Ddydd Mercher, ymddiheurodd yr abaty nad oedd yr honiadau gwreiddiol wedi eu trosglwyddo i'r heddlu.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Tad Thaddeus Kotik ym 1992

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys hefyd eu bod yn ymchwilio i honiad arall o ymosodiad rhyw gan ddyn oedd yn ymweld â'r ynys tua'r un cyfnod, ond sydd ddim yn byw yno.

Dywedodd swyddogion bod ymchwiliad gwahanol yn cael ei gynnal i'r honiad hwnnw, wedi i un o'r dioddefwyr gwreiddiol gyflwyno cwyn.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: "Yn dilyn yr adroddiadau diweddar o gam-drin rhyw ar Ynys Bŷr, derbyniodd yr heddlu ddau adroddiad pellach o gam-drin rhyw ar 21 Tachwedd.

"Maen nhw'n ymwneud â throseddau yn ystod yr un cyfnod (rhwng 1977 a 1987) a gyda'r un cyflawnwr Thaddeus Kotik.

"Mae'r troseddau hyn wedi eu cofnodi ac mae swyddogion mewn cysylltiad â'r dioddefwyr yn ystod yr ymchwiliad, ac er mwyn darparu cefnogaeth arbenigol."