Troseddwr rhyw yn erbyn plant wedi ffoi i Abaty Ynys Bŷr
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg fod dyn oedd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant wedi ffoi i Abaty Ynys Bŷr, gan aros yno am saith mlynedd i osgoi cyfiawnder.
Daw hyn wythnos ers i BBC Cymru adrodd bod mynach oedd yn bedoffilydd wedi bod yn byw ar yr ynys am bron i hanner canrif- o 1947, hyd at ei farwolaeth yn 1992.
Fe aeth Paul Ashton, o Sussex, ar y ffo yn 2004, wedi iddo fod a miloedd o ddelweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Pan ddaethpwyd o hyd iddo yn yr abaty yn 2011, fe gafodd mwy o ddelweddau anghyfreithlon eu darganfod ar ei gyfrifiadur ar yr ynys.
Cafodd Ashton - a fu'n defnyddio'r enw Robert Judd - ei arestio a'i ddwyn i gyfri ar ôl i ymwelydd â'r ynys ei adnabod oddi ar restr o droseddwyr Crimestoppers.
Galwad anhysbys
Daeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf bod chwech o ferched wedi cael iawndal gan yr abaty ar ôl iddynt gael eu cam-drin gan fynach ar Ynys Byr, yn y 1970au a'r 1980au.
Mae pum menyw arall hefyd wedi cyhuddo'r Tad Thaddeus Kotik, a fu farw ym 1992, o gam-drin rhywiol.
Ni ddaeth Heddlu Dyfed Powys i wybod am y troseddau hyd nes 2014, er bod y dioddefwyr wedi datgelu'r hyn a ddigwyddodd 24 mlynedd yn gynharach.
Mae'r abad presennol, y Brawd Daniel van Santvoort, wedi ymddiheuro nad oedd y cyhuddiadau wedi cael eu cyfeirio at yr heddlu yn gynt.
Mae'r BBC ar ddeall bod Paul Ashton wedi cyrraedd Ynys Bŷr fel gwestai yn 2004, ond ei fod wedi aros yno gan symud i mewn i dwr y cloc, sy'n edrych dros yr ynys.
Fe gafodd lety a bwyd gan y mynachod, a oedd yn ei adnabod fel Robert Judd.
Dywedodd ffynhonnell, "Pan gyrhaeddodd Robert, cynigiodd i helpu a gwneud ei hun yn anhepgor.
"Roedd yn gweithredu system rhyngrwyd a ffôn lloeren yr ynys, archebu llety ar-lein ac yn gwneud y cyfrifon, ac fe oedd yn gweithio yn yr ystafell bost."
Roedd Ashton wedi ei wahardd o'i gartref yn Bracklehurst, West Sussex ar ôl i Heddlu Sussex weithredu gwarant chwilio yn ei gartref, gan gymryd ei gyfrifiaduron yn 2004.
Ym mis Gorffennaf 2011, gwnaed galwad anhysbys i Crimestoppers gan rywun a oedd wedi gweld wyneb Ashton ar y rhestr, ac fe'i arestiwyd ar yr ynys.
Dywedodd Heddlu Sussex, "Roeddent wedi adnabod y dyn yn y llun fel dyn oedd yn gweithio yn Ne Cymru, ond o dan enw gwahanol ... hysbyswyd yr heddlu a chafodd swyddogion lleol eu galw i'r ynys i'w arestio.
"Daethpwyd o hyd i fwy o offer cyfrifiadurol sy'n cynnwys delweddau anghyfreithlon."
Plediodd Ashton, a oedd yn 59 yn euog yn Llys y Goron Chichester i feddu ar dros 5,000 o ddelweddau anweddus o blant.
Cafodd ei garcharu am 30 mis ym mis Mawrth 2012, a'i roi ar Gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes.
Mae BBC Cymru wedi gwahodd yr Abaty i roi sylwadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017