Y Frenhines Elizabeth II a phrif wyliau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Beth yw hanes perthynas y Frenhiniaeth a'r Eisteddfod?

Bu'r Frenhines Elizabeth II yn ymwelydd cyson â rhai o brif wyliau Cymru yn ystod ei theyrnasiad - yn eu plith Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Sioe symudol oedd y Sioe Amaethyddol cyn iddi ymgartrefu yn Llanelwedd.

Yn 1947, tro Caerfyrddin oedd croesawu'r Sioe, a daeth y Dywysoges Elizabeth i wobrwyo rhai o'r prif enillwyr, gan gynnwys cyflwyno Cwpan Her Tywysog Cymru i Mr J M Jenkins o Aberteifi am ei wartheg duon.

Yr un flwyddyn cafodd yr anrhydedd o fod yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Frenhines ymweld â'r Sioe Fawr yn 2004 er mwyn agor mynedfa newydd a'r pafiliwn cneifio

Yn 1952, ar ôl marwolaeth ei thad, George VI, daeth yn noddwr y gymdeithas.

Yn 1983 cafodd y Frenhines ei chroesawu yn ôl i faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Enillydd Cwpan y Frenhines y flwyddyn honno oedd Derwen Princess, wedi'i bridio gan Ifor Lloyd o Aberaeron.

Union 100 mlynedd ers cynnal y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn 1904, fe wnaeth y Frenhines ymweld â Llanelwedd unwaith eto i agor mynedfa newydd a'r pafiliwn cneifio.

Y Frenhines a'r Brifwyl

Ar 6 Awst 1946 yn Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru yn Aberpennar, cafodd y Dywysoges Elizabeth ei hurddo yn aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd.

Croesawodd yr Archdderwydd Crwys y Dywysoges i'r maen llog fel Elizabeth o Windsor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Frenhines ei derbyn i Orsedd y Beirdd yn 1946, a hithau'n dywysoges

14 mlynedd yn ddiweddarach yn Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Caerdydd yn 1960, a hithau'n frenhines erbyn hyn, crëodd hanes drwy fod y teyrn cyntaf i ymweld â'r Brifwyl.

Fe deithiodd y teulu brenhinol i ddociau Caerdydd ar y cwch brenhinol, ac fe ymunodd y Tywysog Charles a'r Dywysoges Anne â'r Frenhines Elizabeth wrth iddi gael ei hebrwng drwy'r dorf yn y pafiliwn.

Dywedodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd cyn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn 2019 nad oedd y Frenhines yn aelod o'r Orsedd bellach.

Yn ei ôl ef roedd hynny oherwydd newid i gyfansoddiad y sefydliad yn 2006, oedd yn dweud bod rhaid i bawb sy'n aelod allu siarad Cymraeg.

Ymweld â Llangollen

Fel rhan o'i thaith o amgylch Cymru ar ôl ei choroni, aeth y Frenhines i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1953.

Roedd yr eisteddfod wedi cael ei sefydlu chwe blynedd cyn hynny yn 1947 er mwyn ceisio gwella creithiau'r Ail Ryfel Byd a hyrwyddo heddwch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1953, yn fuan ar ôl cael ei choroni

Erbyn 1953 roedd cantorion a dawnswyr o 32 o wledydd yn cystadlu yn Llangollen.

Yn 1992, agorodd y Frenhines gartref newydd Eisteddfod Llangollen yn swyddogol - y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol.