Y Frenhines Elizabeth II a mudiadau ac elusennau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Warren Gatland, Sam Warburton a'r FrenhinesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r Frenhines yn noddwr Undeb Rygbi Cymru cyn ildio'r awenau i'r Tywysog William

Bu'r Frenhines Elizabeth II yn gysylltiedig â dros 600 o sefydliadau, mudiadau ac elusennau ar draws Prydain ar hyd ei theyrnasiad - nifer ohonynt yng Nghymru.

Wrth iddi droi'n 90 oed cafodd nifer o'r dyletswyddau hynny eu trosglwyddo i aelodau eraill o'r teulu brenhinol.

Roedd materion cefn gwlad yn agos at ei chalon, ac yn 1952 daeth yn noddwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar ôl marwolaeth ei thad, George VI.

Bu'n ymwelydd cyson â'r Sioe Fawr yn Llanelwedd dros y blynyddoedd, gan ymweld yn 1983, a 2004 i ddathlu canmlwyddiant y sioe.

A hithau wrth ei bodd gyda cheffylau, daeth y Frenhines yn noddwr Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig yn 1944 - cysylltiad a barodd nes ei marwolaeth.

Llandaf a Thyddewi

Mudiad arall y bu'r Frenhines yn gysylltiedig ag ef oedd Cyfeillion Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Ymwelodd â'r gadeirlan bedair gwaith yn ystod ei theyrnasiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines ar ei hymweliad cyntaf â Llandaf yn 1960

Gwasanaeth o ddiolchgarwch am gwblhau gwaith adnewyddu'r Gadeirlan oedd yr achlysur cyntaf iddi ei fynychu, a hynny ym mis Mawrth 1960.

Yn ystod y gwasanaeth darllenodd Ddug Caeredin lith.

Roedd ymweliad arall ag Eglwys Gadeiriol Llandaf yn rhan o amserlen brysur Jiwbilî Arian y Frenhines yn 1977.

Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines yn cael ei chyfarch y tu allan i Gadeirlan Llandaf yn 2012

Yn 1999 cafodd gwasanaeth ei gynnal yn y gadeirlan i gyd-fynd ag agoriad swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn 2012 daeth y Frenhines a Dug Caeredin yn ôl fel rhan o daith y Jiwbilî Ddiemwnt.

Roedd y Frenhines yn Ganon Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac yn noddwr Gŵyl Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Un o draddodiadau blynyddol y Frenhines oedd dosbarthu arian cablyd - maundy money - ar Ddydd Iau Cablyd - defod sy'n dyddio 'nôl ganrifoedd.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal mewn cadeirlan wahanol bob blwyddyn, ac yn 1982 tro Tyddewi oedd hi i gynnal y seremoni hynafol.

Ar 1 Mehefin 1995 cafodd Tyddewi ei chydnabod yn ddinas, wrth i'r Frenhines gyflwyno'r breintlythyr mewn seremoni yn yr Eglwys Gadeiriol yno.

Y Frenhines a chwaraeon

Roedd gan y Frenhines gysylltiadau â'r byd chwaraeon yng Nghymru hefyd.

Bu'n noddwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines yn cwrdd â thîm rygbi Cymru yn 2015

Ym mis Rhagfyr 2016, a'r Frenhines bellach yn 90 oed, daeth cyhoeddiad y byddai ei hŵyr, y Tywysog William, yn dod yn noddwr Undeb Rygbi Cymru yn ei lle, a hynny wrth i aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol ysgwyddo rhywfaint o'i chyfrifoldebau.

Pan gafodd Stadiwm y Mileniwm ei agor yng Nghaerdydd yn 1999, a Chymru'n gartref i Gwpan Rygbi'r Byd, cyflwynodd y Frenhines Gwpan Webb Ellis i John Eales, capten tîm Awstralia.

Yn Hydref 2015 croesawodd y Frenhines aelodau tîm rygbi Cymru i dderbyniad arbennig ym Mhalas Buckingham adeg Cwpan Rygbi'r Byd wrth i Gymru gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Roedd y Frenhines hefyd yn gysylltiedig â nifer o fudiadau ac elusennau eraill yng Nghymru - yn eu plith Meysydd Chwarae Cymru, YMCA Cymru a Chymdeithas Swyddogion y Gwarchodlu Cymreig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines yn cyflwyno Cwpan Webb Ellis i John Eales yn Stadiwm y Mileniwm yn 1999