Carcharu dyn am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
ACHOS GYRRWR PERYGLUSFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Susan Owen wedi i wrthrych daro ei char

Mae dyn 31 oed o Ynys Môn wedi'i garcharu am 16 mis ar ôl achosi marwolaeth dynes drwy yrru'n beryglus.

Roedd Barry Slaymaker o Walchmai yn gyrru ei fan VW Transporter pan ddaeth gwrthrych yn rhydd o'i gerbyd a tharo car Susan Owen ym mis Medi 2016.

Fe gafodd Mrs Owen ei lladd yn y fan a'r lle.

Roedd Mrs Owen, a oedd yn gweithio fel nyrs yn Ysbyty Gwynedd, yn gyrru ei char BMW yn Nant y Garth ger Y Felinheli ym mis Medi 2016 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Roedd Mrs Owen yn byw ym Mhentreberw ger Y Gaerwen ac yn fam i ddau o blant.

Dywedodd y Barnwr Huw Rees nad oedd y cordiau a ddefnyddiodd Slaymaker i glymu'r gwrthrych yn "addas i'w defnyddio" yn yr achos yma.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Barry Slaymaker wedi'i garcharu am 16 mis

Mewn datganiad, dywedodd gwr Mrs Owen, Rem, bod ei wraig yn "nyddiau gorau ei bywyd", a'i bod hi "wedi ei methu gan gymaint o bobl".

"Heddiw, mae'r mater wedi dod i ben ac mae'n rhaid i ni ddysgu i fyw hefo ein bywydau fel byddai Sue eisiau.

"Ni fydd y ddedfryd yn dod a Sue yn ôl i ni, ond bydd yn dod a'r mater i ben a byddwn yn symud ymlaen."