Disgwyl i sŵ yn Y Borth ailagor wedi diflaniad lyncs
- Cyhoeddwyd
Bydd sŵ sydd wedi bod ar gau ers i lyncs ddianc o'r safle yn ailagor ddechrau Rhagfyr.
Cafodd y lyncs ei ddifa ganol Tachwedd ar ôl ffoi o sŵ Wild Animal Kingdom yn Y Borth yng Ngheredigion.
Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod lyncs arall wedi marw ar y safle wrth gael ei gludo o un warchodfa i un arall.
Mewn datganiad, dywedodd y sŵ eu bod "wedi cynnal gwaith adnewyddu hanfodol" a'u bod hefyd "wedi cael ymchwiliad llawn".
"Daeth tîm o arolygwyr a threulio pedwar diwrnod yn edrych ar ein busnes gyda chrib mân a rhoi rhestr hir o bethau sydd angen eu gwella," meddai.
Dywedodd eu bod wedi "clirio'r lle yn llwyr," bod "rheolau staff wedi cael eu hail-wneud yn llwyr" ac y bydd staff yn mynd ar "raglen hyfforddi fwy sy'n cynnwys lleoliadau gwaith mewn sŵs mwy ar hyd y DU".
Ychwanegodd y bydd y gwaith yn parhau dros yr wythnos i ddod ond y byddai'r atyniad yn ailagor ar 2 Rhagfyr "os yw popeth yn mynd yn iawn".