Angen trin achos lyncs coll yn fwy difrifol?

  • Cyhoeddwyd
lyncs
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau eu gadael y tu allan i'r wild Animal Kingdom yn y Borth

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cysylltu â Chomisiynydd Heddlu Dyfed Powys a'r Llywodraeth i rannu eu pryderon na chafodd dihangiad cath wyllt o sŵ ger Aberystwyth ei drin yn fwy difrifol.

Nos Wener, fe gafodd lyncs ddihangodd o'r Wild Animal Kingdom yn y Borth dair wythnos yn ôl ei difa gan swyddogion Cyngor Ceredigion.

Dywedodd perchnogion y sŵ eu bod yn teimlo tristwch mawr fod yr anifail wedi cael ei ladd.

Yn dilyn sawl ymdrech i'w dal, dywedodd Cyngor Ceredigion mewn datganiad yn hwyr nos Wener eu bod wedi gorfod gweithredu ar ôl i'r lyncs groesi i ardal mwy poblog o'r gymuned.

Yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd Cyngor Ceredigion fod y sŵ yn wynebu arolwg.

Mae'r atyniad wedi bod ynghau ers i'r lyncs ffoi, wrth i'r perchnogion geisio ei dal.

'Lladd anifeiliaid fferm'

Wrth ymateb i'r ffaith fod y lyncs wedi ffoi, dywedodd Nick Fenwick o Undeb Amaethwyr Cymru fod yna dystiolaeth bod y creaduriaid hyn yn hela anifeiliaid fferm: "Y gwir yw, mae'r anifail yma'n lladd anifeiliaid fferm ar y cyfandir, dyna ffor' maen nhw'n byw.

"Felly, pam cymryd mor hir i ddeall y gwir am yr anifail yma, gan ystyried bod nhw di gweld yr anifail dim ond ychydig latheni o'r dref agosaf?"

Disgrifiad,

Undeb Amaeth yn poeni na chafodd achos lyncs coll ei drin yn fwy difrifol

Yn y datganiad, dywedodd yr awdurdod fod "yn ddrwg iawn gan Gyngor Sir Ceredigion adrodd bod y Lyncs Ewrasiaidd a ddihangodd yn ddiweddar o 'Wild Animal Kingdom' yn y Borth wedi ei ddinistrio mewn modd dyngarol.

"Er gwaethaf ymdrechion aml-asiantaeth cynhwysfawr i ddal yr anifail dosbarth A, derbyniodd y grŵp aml-asiantaeth a oedd yn ymateb i'r digwyddiad, gyngor ychwanegol yn hwyr brynhawn ddydd Gwener, 10 Tachwedd.

"Cynghorodd Milfeddyg arbenigol bod y risg i les y cyhoedd wedi cynyddu o gymedrol i ddifrifol, oherwydd methiant parhaus y 'Wild Animal Kingdom' i adennill y Lyncs.

"Roedd diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig ac felly ar ôl i'r Lyncs groesi i ardal boblog o'r gymuned, roedd yn rhaid gweithredu yn ddi-os."

Ffynhonnell y llun, SŴ BORTH
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lilleth y lyncs ei saethu rhyw dair wythnos wedi iddi ddianc

Mewn datganiad, esboniodd perchnogion y sŵ iddyn nhw gael galwad ffôn yn hwyr nos Wener fod Lilleth wedi ei lladd.

Ychydig ddyddiau ynghynt, roedden nhw wedi ceisio ei chael yn ôl ar ôl cael gwybod ei bod yn llochesi o dan garafan, ond fe ffôdd cyn iddyn nhw ei dal.

Roedd swyddogion o'r cyngor gyda nhw ar y pryd.

"Roedden nhw wedi galw saethwyr proffesiynol oedd â'r offer ddiweddara' a chamerau nos thermal i'w dal hi a'i saethu'n farw", meddai'r datganiad.

"Dydy dweud ein bod yn torri'n calonnau ddim yn cyfleu'n teimladau'n ddigon cryf."