Galw am ffordd newydd ym Môn wedi difrod llifogydd

  • Cyhoeddwyd
ffordd biwmaresFfynhonnell y llun, @abcpowermarine
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ffordd ei chau wedi i rannau o'r ffens a'r wal gael eu difrodi yn y llifogydd

Mae angen adeiladu ffordd newydd rhwng Porthaethwy a Biwmares ar Ynys Môn yn dilyn difrod diweddar, yn ôl un cynghorydd.

Mae ffordd yr A545 wedi bod ar gau ers wythnos diwethaf, yn dilyn tirlithriad a ddigwyddodd yn ystod llifogydd mawr.

Yn ôl Alwyn Rowlands, aelod o Gyngor Tref Biwmares, dyma'r ail dro yn ystod y blynyddoedd diwethaf i hyn ddigwydd, a ffordd newydd ar lwybr newydd ydy'r unig ateb yn y tymor hir.

Fore Mawrth, galwodd AC Ynys Môn ar y llywodraeth i ddiogelu'r ffordd oherwydd ei "phwysigrwydd i'r ardal".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn y byddan nhw a Llywodraeth Cymru yn edrych ar ddatrysiad posib ar gyfer y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alwyn Rowlands yn dweud ei bod hi'n bryd canfod ateb hir dymor ar gyfer y ffordd

Mae cau'r ffordd yn dilyn y difrod diweddar wedi cael effaith ar fusnesau lleol, yn ôl Mr Rowlands.

"Mae eisiau lôn newydd rŵan ar gownt be' sydd wedi digwydd efo'r lôn yma yn syrthio yn dipiau i lawr i'r môr," meddai'r cynghorydd.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru rŵan a Chyngor Ynys Môn weithio efo'i gilydd i wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei drwsio unwaith ac am byth."

Disgrifiad,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod angen diogelu'r ffordd oherwydd ei "phwysigrwydd i'r ardal"

Ar y Post Cyntaf, galwodd AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth ar y llywodraeth i "gamu i'r adwy" i ddiogelu'r ffordd "oherwydd ei phwysigrwydd hi i'r ardal".

Dywedodd mai'r flaenoriaeth yw ailagor y ffordd cyn gynted â phosib, ond hefyd "sicrhau gwydnwch y ffordd ar gyfer y dyfodol".

Ychwanegodd: "Dwi''n meddwl bod angen edrych ar pa ffyrdd sy'n bwysig o ran y rhwydwaith priffyrdd.

"Mi ydw i yn credu y dylai hon [yr A454] fod yn rhan o rwydwaith priffyrdd sy'n dod o dan adain Llywodraeth Cymru oherwydd ei bod hi'n ffordd fregus...

"Oherwydd ei phwysigrwydd hi i'r ardal, mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy a dweud 'gwnawn, fe wnawn ni edrych ar ôl y ffordd yma' achos allwn ni ddim fforddio i hyn ddigwydd dro ar ôl tro."

Ffynhonnell y llun, @abcpowermarine
Disgrifiad o’r llun,

Yr A545 ydy'r brif ffordd rhwng Porthaethwy a Biwmares ar Ynys Môn

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er mai cyfrifoldeb Cyngor Môn yw'r A545, yr ydym yn fodlon cwrdd â'r awdurdod lleol i drafod ffordd ymlaen ar wella seilwaith a gwydnwch y ffordd."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Rydym yn gyntaf yn obeithiol y bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i gefnogaeth ariannol brys er mwyn atgyweirio'r A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares.

"Bydd ein swyddogion priffyrdd yn mynd ati wedyn, eto mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, i edrych ar wahanol opsiynau i wella gwydnwch y ffordd bwysig yma yn yr hir dymor."