Rhybudd cynghorydd am effaith cau ysgolion ardal Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd yng Ngheredigion yn rhybuddio y gallai pentrefi de'r sir "wywo" os yw ysgolion bach lleol yn cau.
Mae cabinet cyngor y sir yn cwrdd ddydd Mawrth i ystyried opsiynau o ran ad-drefnu ysgolion cynradd yn ardal Aberteifi.
O dan un opsiwn byddai pedair ysgol - Beulah, Cenarth, Trewen a Llechryd - yn cau.
Yn ôl y cynghorydd Alun Lloyd Jones, sydd ar bwyllgor cymunedau sy'n dysgu, gallai colli'r ysgolion olygu colli gwasanaethau a busnesau eraill hefyd.
Cau pedair ysgol?
Bwriad yr adolygiad o ysgolion yn ne Ceredigion, dolen allanol yw ystyried sut mae "gwella'r sefyllfa o ran sicrhau bod digon o lefydd addas ar gael mewn ysgolion" a "gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cost yr ystad addysg".
Mae wyth ysgol yn rhan o'r adolygiad, sef ysgolion Aberporth, Beulah, Aberteifi, Cenarth, Llechryd, Penparc, T Llew Jones a Threwen.
O'r rheiny mae tair ysgol - Trewen, Cenarth a Beulah - eisoes yn rhan o "ffederasiwn meddal", sy'n golygu eu bod nhw'n rhannu pennaeth ond â'u cyllid a chyrff llywodraethol ar wahân.
Byddai'r opsiwn mwyaf llym yn golygu chwalu'r ffederasiwn honno a chau ysgolion Beulah, Cenarth, Trewen a Llechryd a chreu ysgol ardal newydd ar y safle mwyaf addas o'r pedwar safle ysgol presennol neu ar safle newydd.
Mae'r adroddiad i'r cabinet yn nodi mai'r opsiwn hwnnw mae pwyllgor trosolwg a chraffu cymunedau sy'n dysgu yn ei ffafrio, ar yr amod bod cyllid cyfalaf ar gael. Y pum opsiwn arall yw:
Parhau gyda'r sefyllfa bresennol;
Cau Ysgol Beulah a gostwng nifer yr ysgolion yn y ffederasiwn;
Cau Ysgol Trewen a gostwng nifer yr ysgolion yn y ffederasiwn;
Cau Ysgol Beulah ac Ysgol Trewen a chwalu'r ffederasiwn;
Cau ysgolion Beulah, Cenarth a Threwen, chwalu'r ffederasiwn a chreu ysgol ardal newydd ar y safle mwyaf addas o'r tri safle ysgol presennol.
Mae gan nifer o'r ysgolion allai gau lai o ddisgyblion na'u capasiti.
Yn ôl yr adroddiad i'r cabinet, dim ond 22 disgybl sydd yn Ysgol Trewen, sydd â chapasiti o 58 - gyfystyr â 62% o lefydd dros ben. Mae gan Ysgol Beulah 17 o ddisgyblion mewn capasiti o 41 - sydd gyfystyr â 59% dros ben.
Mae costau addysg mewn pump o'r wyth ysgol dan sylw hefyd yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y sir, sef £3,777 y disgybl. Yn Ysgol Beulah mae'r ffigwr yn £7,270 y disgybl.
'Dechre gwywo fel blodyn'
Ond yn ôl Alun Lloyd Jones, mae angen hefyd "ystyried faint mae'n gosti i gau ysgol", ynghyd â'r effaith ar y gymuned.
"Ydy, mae'n gostus falle i gael ysgol fach gydag 20 o blant ynddi hi, a chymharu hwnnw â rhywle sydd â 200, 300 neu 400 o blant, mae'n rhatach i gael yr addysg.
"Ond beth ydy'r effaith arall? Faint mae'n gosti i gau ysgol? Mae'n costi siop, falle. Mae'n costi tafarn i gau. Mae'n costi falle garej i gau.
"Achos unwaith mae bwrlwm yr ysgol fach yna yn cael ei dynnu allan o bentre', mae'r pentre'n dechre gwywo fel blodyn."
Ychwanegodd: "Dyw pobl ddim yn agor eu llygaid i weld beth fydd 'ma mewn 20-30 mlynedd yng nghefn gwlad Cymru."
Mae disgwyl i gabinet y cyngor ystyried y cynigion ddydd Mawrth a chymeradwyo un neu fwy ohonyn nhw fel bod y panel adolygu ysgolion yn gallu eu hystyried.
Byddai unrhyw benderfyniad terfynol ar ad-drefnu ysgolion yn cael ei wneud ddiwedd 2018.