Casglu barn y bobl am fynwent newydd i Fachynlleth
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Powys yn gofyn i bobl ardal Machynlleth fynegi barn ar yr angen am fynwent newydd yn y dref.
Mae disgwyl y bydd unig fynwent y dref yn llawn ymhen dwy flynedd.
Mae'r cyngor yn ystyried dau safle posib - rhan o dir ysgol gynradd y dref a thir yng nghefn Plas Machynlleth, sy'n eiddo i gyngor y dref.
Ar hyn o bryd mae tua saith claddedigaeth y flwyddyn.
Mae'r cyngor wedi trefnu stondin ym marchnad wythnosol Machynlleth rhwng 10:00 a 13:00 ddydd Mercher er mwyn trafod y mater gyda thrigolion lleol.
Bydd sesiwn yn dilyn wedyn yn Ystafell John Edwards ym Mhlas Machynlleth rhwng 14:00 a 18:30.
'Mater pwysig'
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Wilkinson, yr aelod o gabinet Cyngor Powys sy'n gyfrifol am fynwentydd: "Rydym eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil cychwynnol ac wedi dod o hyd i ddau safle posibl yn y dref.
"Fodd bynnag, cyn i ni symud ymlaen ymhellach, ry'n ni am gael barn trigolion sy'n byw ym Machynlleth ac o'i gwmpas.
"Bydd y sylwadau y byddwn yn eu casglu yn llywio ein ffordd o ddelio â hyn ond mae nifer o gamau i'w cymryd felly nid oes unrhyw beth yn sicr ar hyn o bryd."
Dywedodd Tony Jones, Maer Machynlleth bod y cyngor tref "yn gefnogol o ymdrechion y cyngor sir i fynd i'r afael â'r broblem" gan annog trigolion i roi eu barn "ar y mater pwysig hwn".
Mae gwybodaeth ynglŷn â'r opsiynau posib ar wefan Cyngor Powys, dolen allanol, ym Mhlas Machynlleth ac yn llyfrgell y dref.
31 Rhagfyr yw dyddiad cau'r ymgynghoriad.