Gwahardd sŵ rhag cadw rhai anifeiliaid
- Cyhoeddwyd
Mae sŵ ger Aberystwyth fu'n rhaid cau ar ôl i lyncs ddianc o'r safle wedi cael eu gwahardd gan Gyngor Ceredigion rhag cadw rhai mathau o anifeiliaid gwyllt.
Ar ôl derbyn adroddiad gan arbenigwr milfeddygol sŵolegol, mae'r cyngor wedi cyflwyno nifer o amodau i drwydded Wild Animal Kingdom yn Y Borth, sy'n bwriadu ailagor ddechrau Rhagfyr.
Mae'r amodau'n cyfyngu ar hawl y parc i gadw rhai mathau o anifeiliaid peryglus.
Mae perchnogion y sŵ'n bwriadu apelio.
Mae'r amodau'n ymwneud â'r hawl i gadw anifeiliaid peryglus Categori 1 - anifeiliaid, yn ôl y diffiniad swyddogol, sy'n ffyrnig o ran natur ac o'r herwydd yn gallu achosi niwed pe baen nhw'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd.
Yn ogystal â lyncsod, mae'r rhestr yn cynnwys llewod, llewpardiaid, mwncïod mawr a rhai mathau o ymlusgiaid fel nadroedd.
Monitro
Mae gofyn i'r parc gydymffurfio â'r amodau o fewn amserlenni penodedig, ac mae gan y perchnogion 28 diwrnod i gyflwyno apêl.
Dywedodd Cyngor Ceredigion mewn datganaid: "Deallir bod 'Wild Animal Kingdom' y Borth yn bwriadu ailagor.
"Bydd y Cyngor yn monitro er mwyn sicrhau bod yr amserlenni a nodir yn y drwydded ddiwygiedig yn cael eu bodloni."
Dywedodd un o berchnogion Wild Animal Kingdom bod bwriad apelio yn erbyn rhai rhannau o'r gwaharddiad, ond doedd hi ddim yn fodlon dweud a fyddai un o'r rhieny'n ymwneud â chadw lyncsod.
Yn ôl Tracy Tweedy, mae rhai o'r anifeiliaid dan sylw yn y sŵ yn hollol ddiogel, ac mewn oedran sy'n golygu y byddai'n niweidiol i'w symud.
Cafodd y lyncs wnaeth ffoi ei difa ganol Tachwedd ar ôl i filfeddyg arbenigol gynghori Cyngor Ceredigion bod peryg i'r cyhoedd ar ôl i'r sŵ fethu ei dal.
Daeth i'r amlwg yn fuan wedyn bod ail lyncs wedi marw ar y safle wrth gael ei gludo o un warchodfa i un arall.