Merched Bosnia-Herzegovina 0-1 Merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
greenFfynhonnell y llun, CBDC

Mae Merched Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth bwysig yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn Zenica gydag unig gôl y gêm gan Kayleigh Green.

Dyma'r fuddugoliaeth sy'n sicrhau bod Merched Cymru ar frig eu grŵp ar ddiwedd y flwyddyn.

Fe ddechreuodd Cymru'n wych gyda Jess Fishlock yn dod yn agos yn y funud gyntaf.

Er i'r ddau dîm greu cyfleoedd, Fishlock oedd yr agosa' at gael y gôl agoriadol yn yr hanner cyntaf gyda golwr y tîm cartref yn gwneud yn dda i arbed un cynnig ganddi.

Gallai Cymru fod wedi cael cic o'r smotyn hefyd, ond penderfynodd y dyfarnwr nad oedd trosedd ar Rachel Rowe yn y cwrt.

Wedi'r egwyl daeth Angharad James yn agos, ond yna o fewn pum munud i hynny roedd Cymru ar y blaen.

Daeth pas drwy ganol amddiffyn Bosnia at Kayleigh Green wedi 58 munud, ac fe gadwodd ei phen i rwydo.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r merched wedi bod yn dilyn esiampl y dynion gyda'u lluniau cyn y gemau

Ond yna gydag ond saith munud yn weddill fe gafodd Kameric ei thynnu i lawr yn y cwrt cosbi, ac fe ddaeth cic o'r smotyn i Bosnia.

Nikolic gymrodd y cyfrifoldeb i'r tîm cartref, ond fe arbedodd Laura O'Sullivan y gic i gadw Cymru ar y blaen.

Yn ystod y tri munud gafodd eu hychwanegu am anafiadau, roedd angen mwy o waith gan O'Sullivan wrth iddi wthio peniad gan Nikolic dros y trawst.

Fe ddaliodd Cymru eu gafael am driphwynt haeddiannol.

Maen nhw ar frig y grŵp gyda 10 pwynt o'u pedair gêm hyd yma, ac mae tair o'r gemau yna wedi bod oddi cartref.