Galw ar Carwyn Jones i atal ei bleidlais ar fwlio

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones yn wynebu galwad i beidio pleidleisio brynhawn Mercher

Ni ddylai Carwyn Jones bleidleisio ar ddadl yn y Senedd ddydd Mercher ar yr hyn yr oedd yn ei wybod am honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru, medd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae disgwyl i Lafur geisio atal ymgais gan y Ceidwadwyr i lansio ymchwiliad Cynulliad.

Yn ôl Andrew RT Davies, byddai'n wrthdaro buddiannau "amlwg a niweidiol" pe bai'r prif weinidog yn cymryd rhan.

Dywedodd Mr Jones nad oes ganddo ofn i ymgynghorydd annibynnol edrych i mewn i'r honiadau.

Fe wnaeth y cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd Steve Jones honni fod awyrgylch wenwynig o fewn Llywodraeth Cymru yn y gorffennol.

'Cadw hygrededd'

Bydd ACau'n pleidleisio ar gynnig gan y Ceidwadwyr ddydd Mercher - gyda chefnogaeth Plaid Cymru ac UKIP - i orchymyn i Bwyllgor Craffu'r Prif Weinidog gynnal ei ymchwiliad ei hun i'r hyn yr oedd Mr Jones yn ei wybod, a beth a wnaeth ynghylch yr honiadau.

Mae Mr Jones wedi cyfeirio ei hun at ymchwiliad annibynnol ar wahân i honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru wedi i'r cynnig gael ei gyflwyno yr wythnos ddiwethaf.

Ond dywedodd Mr Davies: "Beth sydd ddim yn dderbyniol yw i'r prif weinidog bleidleisio mewn dadl am ei ymddygiad ei hun, gan y byddai hynny yn wrthdaro buddiannau amlwg a niweidiol dros ben.

"Er mwyn ei enw da ei hun, ac i gadw unrhyw hygrededd yn y broses, ni all e fod yn farnwr, rheithgor a dienyddiwr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew RT Davies y byddai'n wrthdaro buddiannau "amlwg a niweidiol"

Yn ystod y drafodaeth yn y Siambr ddydd Mercher dywedodd Paul Davies AC, a gyflwynodd gynnig y Ceidwadwyr, fod angen "ymchwilio i'r honiadau mewn modd agored a thryloyw".

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod "cwestiynau heb eu hateb", a dywedodd Neil Hamilton o UKIP mai'r Cynulliad oedd y lle gorau i graffu ar y Prif Weinidog.

Ond mynnodd yr AC Llafur Mick Antoniw fod ymchwilydd annibynnol yn "hynod gymwys" i gynnal yr ymchwiliad.

Ychwanegodd Lee Waters fod yr ACau Llafur yn siarad ag "un llais" wrth wrthwynebu cynnig y gwrthbleidiau.

Disgrifiad o’r llun,

Paul Davies wnaeth gyflwyno'r cynnig ar ran y Ceidwadwyr

Yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones wrth arweinydd y Ceidwadwyr nad yw'n "ofn i ymgynghorydd annibynnol ystyried a wyf wedi torri'r cod gweinidogol, oherwydd rwy'n hyderus nad wyf wedi gwneud".

Mae disgwyl i ACau'r gwrthbleidiau uno i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr ddydd Mercher, ond mae disgwyl i'r AC annibynnol, ac ASE UKIP, Nathan Gill fod ym Mrwsel.

Yn ystod y ddadl mae disgwyl i Lafur gyflwyno gwelliant am bleidlais fyddai - os yn llwyddiannus - yn rhwystro cynnig y Ceidwadwyr rhag cael ei basio.

Ar hyn o bryd mae gan Lafur gefnogaeth mwy o ACau na'r gwrthbleidiau, ac mae Llafur yn hyderus y bydd eu gwelliant yn llwyddo.

Honiadau o gamarwain

Fe wnaeth Leighton Andrews ei honiadau yn erbyn Llywodraeth Cymru yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, cyn-AC Alun a Glannau Dyfrdwy, gafodd ei ganfod yn farw ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet.

Dywedodd cyn-AC Rhondda bod bwlio a gemau meddyliol yn ystod ei gyfnod yn y llywodraeth.

Mae Mr Jones hefyd wedi wynebu honiadau iddo gamarwain y Senedd yn 2014 pan ddywedodd mewn ateb i gwestiwn gan yr AC Ceidwadol Darren Millar nad oedd unrhyw honiadau o fwlio gan swyddogion neu ymgynghorwyr wedi ei wneud iddo.

Dywedodd Mr Jones yr wythnos ddiwethaf nad oedd erioed wedi delio gydag unrhyw "honiadau penodol o fwlio" o fewn Llywodraeth Cymru.