Honiadau fod 'ofn a chasineb' yn Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Bwlio

Mae cyn-ymgynghorydd arbenigol i Carwyn Jones yn Llywodraeth Cymru yn honni ei fod wedi dod ar draws bwlio yn rhengoedd ucha'r Llywodraeth yn ei gyfnod yn y gwaith.

Dywedodd Steve Jones, fu'n gweithio i'r Prif Weinidog rhwng 2009 a 2014, ei fod yn "cytuno'n llwyr" â disgrifiad Leighton Andrews, fod yna "awyrgylch wenwynig" yno.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd sylwadau'r cyn-ymgynghorydd yn rhai yr oedden nhw'n eu "hadnabod" a bod "pob cwyn yn cael ei thrin o ddifrif".

Daw sylwadau Mr Jones wrth i gwestiynau gael eu gofyn am y modd y deliodd y Prif Weinidog â diswyddiad y cyn ysgrifennydd cymunedau, Carl Sargeant.

Cafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw bedwar niwrnod wedi iddo golli ei le yn y cabinet tra bo ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiadau ei fod wedi "cyffwrdd yn amhriodol" a nifer o fenwyod.

Mae Carwyn Jones wedi galw ymchwiliad annibynnol i'r modd y deliodd e â diswyddiad Carl Sargeant a'r digwyddiadau'n dilyn hynny.

Mae disgwyl i'r cwest i farwolaeth Mr Sargeant agor ddydd Llun.

'Ofn a chasineb'

Dywedodd Steve Jones ei fod wedi sylweddoli, yn fuan wedi iddo ddechrau gweithio i'r Prif Weinidog yn 2009, fod yna "awyrgylch wenwynig".

"Roedd yr awyrgylch ar y pumed llawr, ac yn enwedig yn swyddfa'r Prif Weinidog, yn un o ofn a chasineb."

Ychwanegodd ei fod wedi gweithio i Brif Chwip San Steffan cyn symud i Fae Caerdydd ond nad oedd wedi dod ar draws ymddygiad tebyg.

"Roedd yn wenwyn pur," meddai.

"Roedd gweinidogion yn cael eu tanseilio gan uwch-gynghorwyr oedd yn chwarae gemau ac yn ceisio cael rheolaeth afresymol dros y Llywodraeth a'r Prif Weinidog ei hun."

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Steve Jones weithio i'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn 2009

Honnodd fod Carl Sargeant yn un o'r gweinidogion oedd wedi dioddef dan law ymgynghorwyr: "Roedd rhai gweinidogion yn cael eu hystyried yn fygythiad i'r ymgynghorwyr hyn, roedden nhw'n destun sïon maleisus ac ymgyrchoedd i daflu baw arnynt.

"Byddai'r gweinidogion hynny, gan gynnwys Carl, yn gweld eu dyddiaduron yn cael eu monitro a'u cwestiynnu'n afresymol, eu cynigion polisi'n cael eu rhoi naill ochr a'u mynediad at y Prif Weinidog yn cael ei rwystro.

Eisiau ymddiswyddo

Aeth Steve Jones ymlaen i ddweud fod yr awyrgylch wedi mynd yn ormod iddo a rhoddodd wybod i'r Prif Weinidog ei fod yn bwriadu ymddiswyddo, ond i Carwyn Jones ei ddarbwyllo i beidio â gwneud hynny.

"Fe wellodd pethau am rai misoedd, yna fe ddychwelodd y gwenwyn a dechrau llyncu eraill."

Mae Carwyn Jones wedi galw ymchwiliad annibynnol i'r modd y deliodd â diswyddiad Carl Sargeant â'r digwyddiadau'n dilyn hynny.

Wrth ymateb i sylwadau Steve Jones, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydyn ni ddim yn adnabod y sylwadau hyn."

"Mae pob cwyn yn ymwneud â staff a chynghorwyr arbenigol yn cael eu cymryd o ddifri ac yn cael eu trin felly."