Carwyn Jones: Teimlad o 'ffafrio' o fewn y llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyfaddef fod "tensiynau" yn bodoli o fewn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys teimlad fod rhai pobl wedi eu "ffafrio".
Ond mynnodd nad oedd wedi derbyn "unrhyw honiadau penodol o fwlio".
Bydd pleidlais yn cael ei chynnal yn y Cynulliad ddydd Mercher nesaf ar a ddylai'r Prif Weinidog wynebu ymchwiliad i honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.
Daeth hynny yn dilyn honiadau cynharach gan y cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd arbennig Steve Jones fod awyrgylch "wenwynig" o fewn y llywodraeth.
'Blaenoriaethau'n cystadlu'
Roedd Mr Andrews, oedd yn weinidog llywodraeth leol cyn iddo golli sedd Rhondda yn etholiad Cynulliad 2016, wedi honni fod "bwlio" yn digwydd yn ystod ei gyfnod yn y llywodraeth.
Yn 2014 dywedodd Carwyn Jones wrth AC Ceidwadol oedd wedi gofyn am honiadau bwlio nad oedd unrhyw rai wedi cael eu gwneud.
Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i sylwadau Mr Andrews a Mr Jones, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi "delio" ar y pryd ag unrhyw honiadau.
Cafodd y Prif Weinidog ei holi ymhellach gan arweinwyr Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr ar y mater yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth.
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wrth Carwyn Jones am egluro'r gwahaniaeth rhwng ei ddatganiad i'r Senedd yr wythnos diwethaf a'i ddatganiad yn 2014.
Mewn ymateb dywedodd Mr Jones: "Dwi'n ymwybodol o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud yn y wasg.
"Yr unig beth allai ddweud am y sylwadau hynny yw, mewn perthynas â rheiny, na chafodd unrhyw honiadau penodol o fwlio eu cyflwyno i mi, yn ffurfiol neu'n anffurfiol, chafodd dim tystiolaeth ei gyflwyno i mi, a ni chafodd y gair 'bwlio' erioed ei ddefnyddio i mi yn y ffordd yna."
Cyfaddefodd fodd bynnag fod materion wedi codi o ganlyniad i "bobl weithiau'n anhapus gyda'r ffordd roedd pethau'n digwydd".
"Oedd 'na gystadleuaeth o ran blaenoriaethau a chwynion o'r natur yna? Wrth gwrs fod 'na," meddai.
"Oedd pobl yn teimlo weithiau fod eraill yn cael eu ffafrio fwy na nhw? Wrth gwrs, ac mae hynny'n digwydd mewn unrhyw sefydliad."
Ychwanegodd fod "tensiwn" yn bodoli'n aml o fewn gwleidyddiaeth, gan ddweud: "Byddai'n parhau i ddelio â'r tensiynau hynny mewn ffordd mor deg â phosib."
Mewn ymateb i gwestiwn hwyrach gan Mr Davies yn galw arno i gefnogi'r cynnig yr wythnos nesaf i gynnal ymchwiliad i'r honiadau o fwlio, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n "gohirio penderfyniad" ond ei fod yn "derbyn" yr angen am ragor o graffu.
'Atebolrwydd'
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymchwiliad i'r honiadau, gafodd eu gwneud gan y cyn-weinidog Leighton Andrews.
Mae ACau blaenllaw nawr wedi penderfynu y bydd dadl ar y mater yn cael ei chynnal.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei fod yn "gam cyntaf tuag at gael rhywfaint o atebolrwydd".
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth, dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas fod Mr Jones wedi dweud celwydd am yr honiadau - naill ai yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf, neu yn 2014.
Cafodd yr honiadau eu gwneud yn sgil marwolaeth Carl Sargeant - roedd Mr Andrews yn dweud fod AC Alun a Glannau Dyfrdwy yn destun rhywfaint o'r ymddygiad hwnnw yn ystod ei gyfnod fel gweinidog.
Cafodd Mr Sargeant, oedd yn wynebu ymchwiliad gan y blaid Lafur yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol, ei ganfod yn farw ddyddiau wedi i Mr Jones ei ddiswyddo fel yr ysgrifennydd cymunedau.
Mae Mr Jones yn wynebu pwysau ynglŷn â beth oedd e'n ei wybod am yr honiadau, wedi i Mr Andrews honni ei fod yn gwybod amdanyn nhw.
'Gwenwynig'
Cafwyd ffrae yn y Senedd yr wythnos diwethaf wedi i Mr Jones wrthod ymhelaethu ar beth oedd e'n ei wybod am yr honiadau.
Cafodd sylwadau Mr Andrews eu hategu gan gyn-ymgynghorydd arbennig i'r llywodraeth, Steve Jones, a ddywedodd fod yr awyrgylch ar y pryd yn "wenwynig".
Dan gynnig y Ceidwadwyr fe fyddai'r Cynulliad yn gofyn i bwyllgor sydd yn craffu ar y Prif Weinidog gynnal ymchwiliad i'r honiadau, gan adrodd yn ôl erbyn mis Chwefror 2018.
Byddai'r ymchwiliad yn gofyn pryd gafodd yr honiadau eu gwneud i'r prif weinidog, sut gawson nhw eu harchwilio a pha gamau gafodd eu cymryd.
Ddydd Mawrth fe wnaeth pwyllgor busnes y Cynulliad, sydd yn cynnwys ACau blaenllaw o bob plaid, benderfynu cyflwyno cynnig y Ceidwadwyr i bleidlais lawn yn y Siambr.
Mewn erthygl ar gyfer melin drafod y Sefydliad Materion Cymreig, dywedodd Andrew RT Davies: "All y Prif Weinidog ddim parhau i osgoi craffu neu anwybyddu cwestiynau'r gwrthbleidiau.
"Mae gwneud hynny nid yn unig yn tanseilio'i hygrededd fel arweinydd, mae hefyd yn dwyn anfri ar y Cynulliad wrth erydu ei gallu i graffu'n sylfaenol."
Mae'n debyg fod Plaid Cymru'n cefnogi'r syniad o ymchwiliad mewn egwyddor, ond fe fyddan nhw'n gwneud penderfyniad terfynol ar gefnogi cynnig y Ceidwadwyr ai peidio pan fydd y mater yn mynd i bleidlais gan ACau.
Dywedodd Simon Thomas mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth: "Dwi'n meddwl y gallai'r Prif Weinidog... fod wedi bod yn llawer mwy agored a gonest am yr amgylchiadau, a dod allan gyda'i onestrwydd yn gyflawn.
"Nawr dwi wir yn amau beth mae wedi bod yn ddweud wrthym ni. Fy nghasgliad i ar hyn o bryd - heb wybod unrhyw wybodaeth bellach - yw ei fod un ai wedi dweud celwydd yr wythnos diwethaf neu ei fod wedi dweud celwydd yn 2014."
'Anwybyddu cwestiynau'
Dywedodd llefarydd ar ran UKIP: "Mae Leighton Andrews a chyn-ymgynghorydd arbennig i'r prif weinidog wedi rhybuddio am 'ddiwylliant o fwlio' o fewn Llywodraeth Cymru.
"Mae hyn yn rhywbeth nad oes modd ei osgoi, ac mae'n annerbyniol i'r prif weinidog anwybyddu cwestiynau yn ei gylch.
"Rydyn ni felly'n llwyr gefnogol i'r cynnig i gynnal ymchwiliad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017