Galw am weithredu wedi tân sychwr dillad Llanrwst

  • Cyhoeddwyd
Doug McTavish a Bernard Hender
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Doug McTavish a Bernard Hender yn y digwyddiad yn Llanrwst

Mae crwner ddaeth i'r casgliad bod hi'n debygol mai nam mewn peiriant sychu dillad oedd achos tân a laddodd dau ddyn yn sir Conwy wedi dweud wrth y cwmni a gynhyrchodd y peiriant bod yn rhaid iddyn nhw gymryd camau i osgoi achosion tebyg.

Bu farw Bernard Hender, 19, a Doug McTavish, 39, mewn tân mewn fflat uwchben swyddfa trefnwr angladdau yn Llanrwst ym mis Hydref 2014.

Ar ôl cofnodi rheithfarn naratif ddechrau Medi, mae crwner cynorthwyol gogledd-ddwyrain Cymru David Lewis wedi cyhoeddi Adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol sy'n galw ar gwmni Whirlpool i weithredu newidiadau.

Bydd yn rhaid i'r cwmni ymateb i gynnwys yr adroddiad erbyn 26 Rhagfyr.

Clywodd y cwest dystiolaeth anghyson am os mai'r sychwr dillad oedd yn gyfrifol ai peidio.

Ond yn ei adroddiad mae Mr Lewis yn dweud mai nam trydanol yn switsh drws y sychwr dillad oedd achos y tân "yn ôl pob tebyg".

'Amddiffynnol a diystyriol'

Dywedodd ei fod wedi clywed tystiolaeth oedd yn "cadarnhau bod cynhyrchwyr y peiriant yn ymwybodol o nifer sylweddol o danau eraill gyda chysylltiad â pheiriannau a drysau tebyg".

Yn yr adroddiad mae'n dweud bod Whirlpool yn defnyddio'r un dull o gynhyrchu drysau "yn llythrennol o fewn miloedd o beiriannau".

Ond fe ddywedodd nad oedd ganddo hyder bod asesiadau risg y cwmni wedi "cydnabod na gwerthfawrogi yn llawn maint y risg o dân".

Ychwanegodd: "Cefais argraff bod o leiaf rhywfaint o'r dystiolaeth ar ran Whirlpool yn amddiffynnol ac yn ddiystyriol."

Disgrifiad o’r llun,

Y difrod yn y fflat yn Llanrwst wedi'r tân

Dywedodd Mr Lewis ei fod yn pryderu bod agwedd y cwmni "yn rhwystr i ddysgu gwersi amserol ac yn debygol o amharu ar gamau graddol allai osgoi tanau ac arbed bywydau".

Mae'r adroddiad yn cael ei yrru at deuluoedd Mr Hender a Mr McTavish, ac at Whirlpool, sy'n gorfod cyflwyno ymateb o fewn 56 diwrnod.

Mae'r crwner yn disgwyl i'r cwmni egluro pa gamau sydd eisoes wedi eu cymryd, neu sydd ar y gweill, yn ogystal ag amserlen gweithredu.

Os nad yw'r cwmni wedi cymryd unrhyw gamau, bydd disgwyl iddyn nhw amlinellu'r rhesymau dros hynny.

Mewn datganiad wedi'r cwest, fe gydymdeimlodd Whirlpool â theuluoedd a ffrindiau Mr Hender a Mr McTavish, gan fynnu eu bod yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch.

"Rydym yn trin pob digwyddiad o ddifrif ac yn adolygu diogelwch ein cynnyrch yn gyson," meddai llefarydd.

"Fe fyddwn yn ystyried casgliadau'r crwner yn yr achos hwn yn ofalus."