Gwobr am ymchwil ar olwg plant sydd â syndrom Down
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr uchel ei bri am eu gwaith ymchwil ar gyfer plant sydd â syndrom Down sy'n cael problemau gyda'u golwg.
Cafodd Gwobr Pen-blwydd y Frenhines ei rhoi i'r uned ymchwil am eu darganfyddiadau a'u triniaethau yn y maes.
Cyn sefydlu'r uned 25 mlynedd yn ôl roedd yna ddiffyg dealltwriaeth ynglŷn â'r problemau golwg sydd yn gallu codi pan mae gan blentyn syndrom Down.
Plant ar draws Prydain
Mae plant sydd efo'r syndrom yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylderau llygaid a golwg ac angen profion mwy cyson.
Bob dwy flynedd mae'r wobr academaidd yn cael ei rhoi a hynny i brifysgolion a cholegau ym Mhrydain am waith sydd o ragoriaeth arbennig.
Ar hyn o bryd mae 250 o blant a phobl ifanc ar draws y DU yn cymryd rhan yn astudiaethau'r brifysgol gyda'r cyfnod monitro yn amrywio rhwng blwyddyn a 25 mlynedd.
Am fod y data wedi cael ei gasglu ers blynyddoedd dyma'r gronfa ddata mwyaf o'i math yn y byd.
Ymhlith y gwaith mae'r uned wedi ei wneud yw darganfod manteisio sbectol ddeuffocal, golygu bod newidiadau wedi bod i'r profion golwg ac mae'r ymchwil hefyd wedi cael effaith ar hyfforddiant optometryddion a chanllawiau cenedlaethol a rhyngwladol ynglŷn â gofalu am ein golwg.
Efallai o ddiddordeb...
Dywedodd Dr Maggie Woodhouse, Pennaeth yr Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down fod y wobr yn "anrhydedd aruthrol".
Gwireddu potensial
"Mae'n adlewyrchu ymroddiad ac ymchwil unigryw ein staff sy'n gwbl ymrwymedig i deilwra a gwella gofal llygaid i blant â syndrom Down.
"Mae gallu gwella eu cyfleoedd dysgu ac addysgol, yn ogystal â rhoi'r cyfle iddyn nhw ffynnu a gwireddu eu potensial llawn, yn brofiad gwerth chweil."
Ychwanegodd: "Gyda chymorth grŵp mawr a brwdfrydig o deuluoedd, mae ein huned ymchwil wedi cael y cyfle i wella dealltwriaeth o ddatblygiad golwg plant sydd â syndrom Down, newid syniadau am y ffordd y caiff eu problemau golwg eu gweld a'u trin, a chwyldroi'r gofal llygaid sydd ar gael iddynt ar draws y Deyrnas Unedig (DU) a thramor."
Bwriad yr uned yn y dyfodol yw rhoi hyfforddiant i optometryddion fel eu bod yn gallu mynd mewn i ysgolion yng Nghymru a chynnig gwasanaeth gofal llygaid arbennig.