Arolwg annibynnol o wariant bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr
- Cyhoeddwyd

Mae Betsi Cadwaladr dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu arolwg ariannol annibynnol o fwrdd iechyd mwyaf Cymru.
Dywedodd llefarydd hefyd fod perfformiad bwrdd Betsi Cadwaladr - sydd wedi bod dan fesurau arbennig am dros ddwy flynedd - ym maes rhestrau aros yn "annerbyniol".
Mae gweinidogion wedi dweud eu bod yn disgwyl i Betsi Cadwaladr ddangos diffyg o £36m ar gyfer y flwyddyn ariannol yma.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud fod y bwrdd iechyd wedi "colli rheolaeth" o'r sefyllfa ariannol a bod hwn yn "un o'r sgandalau mwyaf i daro'r weinyddiaeth Lafur".
Targedau ariannol
Roedd adroddiad i'r bwrdd wedi awgrymu y gallai'r gorwario fod yn uwch na £50m heb ymyrraeth sylweddol.
Roedd y rhesymau am y gorwario yn cynnwys y gost o dalu am nyrsys asiantaeth a gofal brys.

Roedd talu am nyrsys asiantaeth a gofal brys yn rhan o'r rheswm am orwario
Fe wnaeth Betsi Cadwaladr orwario £20m yn 2015/16 a £30m yn 2016/17.
Mae tri o fyrddau iechyd eraill Cymru, Caerdydd a'r Fro, Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, yn wynebu cyfanswm diffyg o fwy na £150m ar gyfer 2017/18.
Mewn ymateb ysgrifenedig i'r AC Ceidwadol Angela Burns, dywedodd yr ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething, fod targedau ariannol penodol wedi eu gosod ar gyfer y byrddau iechyd hyn.
Dywedodd: "Rwy'n hyderus fod y tri bwrdd ar y llwybr cywir i gyrraedd eu targedau, ond rwy'n siomedig nad yw Betsi Cadwaladr eto wedi dangos eu bod wedi gweithredu yn y fath modd fel y byddant yn cyrraedd eu targed."
"Fe fyddaf yn ystyried casgliadau'r arolwg pan fod y gwaith wedi ei gwblhau, a byddaf am gael cadarnhad gan y bwrdd eu bod yn gweithredu ar frys er mwyn cyd-fynd a'r argymhellion."
'Sgandal'
Mewn datganiad ar wahân, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ei gwneud yn glir i'r bwrdd iechyd nad yw'r sefyllfa ariannol bresennol na'r perfformiad ar restrau aros yn dderbyniol."
Dywedodd Angela Burns AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd: "Mae cyllid Betsi Cadwaladr yn parhau allan o reolaeth ar ôl dwy flynedd a hanner o reolaeth gan Lywodraeth Cymru ac mae hyn yn un o'r sgandalau gwaethaf i daro'r weinyddiaeth Lafur.
Dyw Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr heb ymateb i'r datblygiadau hyd yma.