Comisiynydd Heddlu yn galw ar gefnogwyr rygbi i fihafio
- Cyhoeddwyd
Mae enw da Caerdydd fel lle da a diogel i wylio gemau rygbi rhyngwladol dan fygythiad oherwydd ymddygiad gwael cefnogwyr meddw, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.
Daeth sylwadau Alun Michael wedi i rai cefnogwyr ac un plismon siarad am ddigwyddiadau yn y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd ddydd Sadwrn diwethaf.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod dyletswydd gyfreithiol arnyn nhw i beidio gweini alcohol i bobl feddw yn Stadiwm Principality.
Mae'r undeb yn ymchwilio wedi i ddyn anabl gael ei sarhau gan rai cefnogwyr.
'Peryglu mwynhad miloedd'
Dywedodd Mr Michael ar raglen Good Morning Wales ar Radio Wales: "Os yw pobl yn parhau i ymddwyn yn annifyr, treisgar ac anghwrtais yna fe fydd mwy o alwadau i wahardd alcohol [mewn gemau].
"Ond yr alwad ddylai fod i bawb ddeall sut i ymddwyn, peidio ymddwyn mewn ffordd wael sy'n peryglu mwynhad miloedd o bobl eraill, ac yn fwy na dim gadewch i ni annog pobl i beidio yfed o flaen llaw a chyrraedd y digwyddiad ar ôl yfed gormod."
Mae nifer wedi cwyno am drafferthion wrth geisio gwylio gemau rygbi.
Roedd Robin Hindle-Fisher yn gwylio gêm Seland Newydd gyda'i nith Beth Fisher pan wnaeth criw o bobl ddechrau eu sarhau mewn iaith anweddus.
Dywedodd Ms Fisher bod ei hewythr - sydd â breichiau byr oherwydd thalidomide - wedi cael ei drin fel yna wedi iddo ofyn i'r criw beidio sefyll o'i flaen a'i rwystro rhag gweld y chwarae.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd y Prif Arolygydd Mark Cleland o Heddlu Trafnidiaeth Prydain hefyd yn feirniadol iawn ar wefan Twitter o "ymddygiad meddw a threisgar" rhai cefnogwyr.
Dywedodd fod "deddfwriaeth wedi gorfodi gwelliant mewn ymddygiad pêl-droed" ond bod "diwylliant meddw rygbi wedi aros yr un fath ar y cyfan".
Sarhau a bygwth
Aeth Alun Michael ymlaen i alw ar gefnogwyr rygbi i "ymddwyn fel bod chwyddwydr arnoch chi... fel tase eich mam gyda chi".
"Bihafiwch yn well, oherwydd mae gan Gaerdydd enw da am fod yn lle da a diogel i wylio rygbi a digwyddiadau mawr eraill," meddai.
"Os yw hynny'n cael ei danseilio gan bobl sydd ddim yn ymddwyn yn gyfrifol a chwrtais, yna fe fyddwn ni'n diodde' fel cenedl."
Fe wnaeth un o ddyfarnwyr URC, oedd ddim am gael ei enwi, ddweud ei fod e a'i ffrindiau wedi cael trafferthion yn y gêm rhwng Cymru a Georgia mewn rhannau gwahanol o'r stadiwm.
Dywedodd bod cefnogwyr oed yn herio ymddygiad meddw eraill yn cael eu sarhau a'u bygwth.
Ychwanegodd ei fod ond wedi gweld trafferthion o'r fath mewn gemau rhyngwladol, ac nid wrth wylio neu ddyfarnu gemau eraill o amgylch Cymru.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod diogelwch a mwynhad cefnogwyr o bwysigrwydd mawr iddyn nhw.
"Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i beidio gweini alcohol i bobl sy'n ymddangos yn feddw, ac rydym yn cyflogi swyddogion trwyddedu sy'n gyn-blismyn ar y safle i atgyfnerthu hyn," meddai llefarydd.
"Bydd ein stiwardiaid yn gwahardd cefnogwyr sydd wedi meddwi neu sy'n tramgwyddo ar gefnogwyr eraill, neu yn ymddwyn mewn modd sy'n arwain at ymyrraeth yr heddlu."