Tân sychwr dillad: Dyn yn 'bwriadu dwyn achos sifil'

  • Cyhoeddwyd
Doug McTavish a Bernard Hender
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Doug McTavish a Bernard Hender yn Hydref 2014

Mae'r unig berson i oroesi tân angheuol mewn fflat yn Llanrwst dair blynedd yn ôl wedi dweud wrth raglen Newyddion 9 BBC Cymru y bydd achos sifil yn cael ei ddwyn yn erbyn cwmni Whirlpool.

Daeth cwest i'r casgliad fis Medi bod Doug McTavish, 39, a Bernard Hender, 19, wedi marw mewn tân oedd yn debygol o fod wedi dechrau mewn peiriant sychu dillad.

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth mae'r crwner David Lewis wedi galw ar Whirlpool, y cwmni wnaeth gynhyrchu'r peiriant, i wneud newidiadau.

Digwyddodd y tân mewn fflat uwchben swyddfa'r trefnydd angladdau Garry Lloyd Jones, oedd yn bartner i Mr Hender.

Disgrifiad,

Garry Lloyd Jones: 'Roedden nhw'n trio rhoi ar bai ar rwbath'

Mae o wedi croesawu cynnwys yr adroddiad, sy'n dweud bod "cynhyrchwyr y peiriant yn ymwybodol o nifer sylweddol o danau eraill gyda chysylltiad â pheiriannau a drysau tebyg", a bod Whirlpool yn defnyddio'r un dull o gynhyrchu drysau "yn llythrennol o fewn miloedd o beiriannau".

Ychwanegodd Mr Lewis nad oedd yn hyderus bod asesiadau risg y cwmni wedi "cydnabod, na gwerthfawrogi yn llawn, maint y risg o dân".

"Cefais argraff bod o leiaf rhywfaint o'r dystiolaeth ar ran Whirlpool yn amddiffynnol ac yn ddiystyriol," dywedodd yn yr Adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Y difrod yn y fflat yn Llanrwst wedi'r tân

Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Mr Lloyd Jones: "Ro'n i wedi gobeithio gweld y lefel yna o feirniadaeth.

"Ro'n i'n gwybod beth oedd wedi digwydd, ro'n i yna ac fe welish i be oedd wedi digwydd

"Ond yna fe gawson i'r so-called experts o Whirlpool yn trïo rhoi'r bai ar betha' erill... dim un peth yn arbennig, jest unrhyw beth.

"Dwi'n meddwl bod nhw [Whirlpool] angen gwneud lot o newidiada'."

Dywedodd bod angen i'r cwmni flaenoriaethu diogelwch cwsmeriaid: "Gobeithio wneith nhw fuddsoddi mwy o arian a gwella'r peirianna' ma' nhw'n eu cynhyrchu.

"Dwi'n aros i glywed gan gyfreithwyr. Mi fydd 'na achos sifil."

Diogelwch yn 'flaenoriaeth'

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Whirlpool UK i gynnwys adroddiad y crwner.

Mewn datganiad ar ddiwedd y cwest, fe gydymdeimlodd Whirlpool â theuluoedd a ffrindiau Mr Hender a Mr McTavish.

"Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn trin bob digwyddiad o ddifri', ac mae gennym broses gadarn sy'n adolygu yn gyson diogelwch ein holl gynnyrch," medd llefarydd.

"Byddwn yn adolygu ac ystyried yn ofalus gasgliadau'r crwner yn yr achos yma."