Dyn yn marw ar ôl cael ei ddal mewn peiriant
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn a gafodd ei ddal mewn peiriant yn dilyn digwyddiad yn Sir Conwy wedi marw.
Cafodd plismyn a swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i safle Recycle Cymru ym Mharc Diwydiannol Tir Llwyd, Bae Cinmel nos Iau am 19:30.
Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle. Dydi ei enw heb gael ei gyhoeddi.
Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Neil Harrison: "Fe alla'i gadarnhau ein bod yn ymchwilio i ddigwyddiad yn Recycle Cymru.
"Rydym yn cydweithio gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac mae'r teulu wedi cael gwybod."
Dywedodd perchennog Recycle Cymru, Stephen Jones bod y dyn a fu farw wedi bod yn gweithio yno am ryw dri mis, a'i fod yn credu ei fod yn ei 60au.
"'Dw i mewn sioc ac wedi llorio. Fedra'i ddim credu'r peth," meddai.
"Roedd o'n ddyn ffantastig. 'Dwi'n cydymdeimlo efo'i deulu. Rydan ni'n gweithio efo'r awdurdodau i ddarganfod be ddigwyddodd."