Cyngor i gefnogwyr rygbi gyrraedd Caerdydd yn fuan

  • Cyhoeddwyd
CefnogwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl miloedd o gefnogwyr rygbi yn y brifddinas

Mae 'na gyngor i siopwyr a chefnogwyr rygbi gyrraedd Caerdydd yn gynnar ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl prysurdeb yn y brifddinas wrth i 67,000 o bobl ddod i wylio tîm rygbi Cymru'n herio De Affrica yn Stadiwm Principality.

Fe fydd oedi hefyd ar y rheilffyrdd, gyda threnau rhwng Caerdydd a Llundain yn cymryd awr ychwanegol oherwydd gwaith ar y lein.

Bydd yr M4 i'r gorllewin hefyd ar gau yn ardal Casnewydd o 19:00.

Mae giatiau Stadiwm Principality yn agor am 11:00, gyda'r gêm yn cychwyn am 14:30.

Cyngor Undeb Rygbi Cymru yw i gefnogwyr gyrraedd yn fuan gan fod mwy o fesurau diogelwch ar waith, ac mae penaethiaid y stadiwm yn galw ar gefnogwyr i beidio dod â bagiau o gwbl gan fod gwaharddiad ar fagiau ac ymbarelau mawr.

Roedd ciwiau hir yng ngêm agoriadol Cyfres yr Hydref, gyda rhai o'r cefnogwyr yn methu'r gic gyntaf yn erbyn Awstralia.

Ffynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwy o drenau GWR yn rhedeg i bob cyfeiriad o Gaerdydd Canolog yn dilyn y gêm

Ffyrdd

  • Cau ffyrdd canol y ddinas am 11:00;

  • Bysiau Caerdydd yn cael eu dargyfeirio i osgoi canol y ddinas ac yn terfynu ar Ffordd Churchill, Heol y Brodyr Llwydion neu Tudor Street;

  • Bysiau hwyr tan 03:30 ar gael i gyfeiriad Trelái, Draenen Pen-y-graig, Llaneirwg a Phontprennau;

  • Yr M4 i'r gorllewin ar gau o 19:00.

Trenau

  • Mwy o drenau GWR i bob cyfeiriad ond gwaith atgyweirio yn golygu oedi rhwng Caerdydd a Llundain;

  • Gofyn i deithwyr ar wasanaethau lleol ac i gyfeiriad y cymoedd ddefnyddio gorsaf Heol y Frenhines yn dilyn y gêm.